S4C

Navigation

Mae CPD Y Bala wedi ennill y Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf yn eu hanes wrth iddynt drechu Cei Connah ddydd Sadwrn. 

Roedd Y Bala yn wynebu chwip o her gan wynebu tîm Cei Connah oedd heb golli mewn 21 gêm ac yn edrych i ennill eu trydydd Cwpan Nathaniel MG yn olynol.

Bu’n ornest ffyrnig ar Y Graig yng Nghefn Mawr, gyda’r ddau dîm yn gorffen y gêm gyda 10 o chwaraewyr ar y cae.

Yn hwyr yn yr hanner cyntaf, cafodd Lasanna Mendes o’r Bala gerdyn coch wedi iddo ymddangos i daflu pêl at aelod o’r dorf.

Gyda dim ond rhai munudau i fynd a’r gêm yn ddi-sgôr, aeth Cei Connah i lawr i 10 dyn wrth i’r capten George Horan gael ei anfon o’r cae.

Ni ddaeth gôl ar ôl 90 munud, na chwaith ar ôl cyfnod o amser ychwanegol, gan olygu bod yn rhaid troi at giciau o’r smotyn er mwyn penderfynu ar enillydd.

Roedd y ddau dîm yn gyfartal wedi pedwar ymgais yr un, cyn i Paul Rutherford sgorio i’r Bala i adael y sgôr yn 4-3.

Gyda’r pwysau ar ei ysgwyddau, cafodd ymgais Mike Wilde ei arbed gan y gôl geidwad Alex Ramsay gan sbarduno dathliadau mawr ymhlith chwaraewyr a chefnogwyr Y Bala.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?