Bydd un gêm gynghrair yn cael ei chwarae dros y penwythnos, sef y gêm fawr tua’r brig rhwng Y Bala a’r Seintiau Newydd, a bydd y cyfan yn fyw ar Sgorio brynhawn Sadwrn am 5.00.
Dydd Sadwrn, 7 Tachwedd
Y Bala v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)
Bydd hi’n 2il yn erbyn 1af ar Faes Tegid nos Sadwrn gyda’r Seintiau Newydd yn anelu i agor bwlch o wyth pwynt ar y brig.
Mae’r gêm hon yn cael ei hail-chwarae wedi iddi gael ei gohirio ar ôl 88 munud yn gynharach yn y tymor gan i’r llifoleuadau ddiffodd yn Y Bala – roedd hi’n 2-2 ar y pryd.
Dyw’r Bala ond wedi colli un o’u pedair gêm gartref ddiwethaf yn erbyn Y Seintiau Newydd, ond fe gollon nhw honno mewn steil (Bala 0-7 YSN)!
Mae pedwar prif sgoriwr y gynghrair yn debygol o chwarae nos Sadwrn, sef Chris Venables (10), Greg Draper (7), Louis Robles (7) a Will Evans (6) – Danny Williams o Hwlffordd yw’r unig chwaraewr arall i gyrraedd chwe gôl.
Dyw’r Seintiau heb golli dim un o’u naw gêm gynghrair hyd yma (ennill 8, cyfartal 1), tra bo’r Bala yn mwynhau eu dechrau gorau erioed i dymor yn yr uwch gynghrair (20pt wedi 9 gêm).
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ✅✅✅✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅➖✅
Bydd uchafbwyntiau’r gêm i’w gweld ar Sgorio nos Lun am 5:25.