S4C

Navigation

Wembley amdani! S4C am ddangos Wrecsam yn ffeinal yr FA Trophy

Mi fydd S4C yn dangos y gêm rownd derfynol FA Trophy Buildbase rhwng Bromley a Wrecsam.

Mi fydd Sgorio yn Stadiwm Wembley i ddarlledu’r ffeinal yn fyw ar ddydd Sul 22 Mai. Mi fydd y rhaglen yn cychwyn am 3.45yh, gyda’r gic gyntaf am 4.15yh.

Dyma fydd y trydydd dro i’r ddau dîm Cynghrair Cenedlaethol Vanarama gwrdd y tymor hwn, gyda Wrecsam yn ennill 2-0 yn y Cae Ras, cyn i’r ddau dîm gael gêm gyfartal 0-0 yn eu gêm ddiweddaraf, yng nghartref Bromley, Hayes Lane.

Fe lwyddodd Wrecsam i guro arweinwyr y Gynghrair Genedlaethol, Stockport County, yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth, wedi iddynt drechu Notts County, Boreham Wood, Folkestone Invicta a Dinas Caerloyw yn y rowndiau blaenorol.

 

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?