Lloegr C yn curo Cymru C o flaen torf o dros 850 yn Stadiwm J Davidson, Altrincham.
Cymru cafodd y gorau o’r cynigion cynnar, ergyd nerthol Kane Owen a cynnig Sam Jones ar y postyn pellach yn cael eu harbed gan golwr Lloegr, Sam Howes.
Sgoriodd De Havilland unig gôl y gêm gydag eiliadau yn weddill o’r hanner cyntaf, camgymeriad Tom Price yn arwain at ergyd at y gôl ond i Alex Ramsey arbed yn dda cyn i’r bêl ddisgyn i lwybr chwaraewr canol cae Barnet i rwydo.