Fe fydd angen gwyrth ar Gymru i barhau yng Nghwpan y Byd ar ôl colli yn erbyn Iran o 0-2 ddydd Gwener.
Roedd y perfformiad yn un siomedig gyda Iran yn hawlio’r meddiant am gyfnodau hir o’r gêm, a cherdyn coch i Wayne Hennessey – cerdyn coch cyntaf y bencampwriaeth – yn agor y llif-ddorau i’r gwrthwynebwyr.
Daeth cyfle cynnar i Neco Williams wedi dau funud o chwarae wedi iddo ergydio o bell ac er iddo fethu, roedd cychwyn ymosodol yn dangos mai ymosod oedd bwriad Cymru.
Roedd yna gychwyn bygythiol gan y ddwy wlad, gyda Rezaeian yn croesi’r bêl o’r dde gan orfodi Rodon i glirio ar gyfer Cymru a chyfle hefyd yn dod gan Sardar Azmoun, sydd bellach yn holliach ac yn fygythiad ymosodol cryf i Iran.
Daeth cyfle i Gymru wedi 11 munud o chwarae, gyda Connor Roberts yn croesi o’r asgell dde tuag at Kieffer Moore yng nghanol y cwrt cosbi, a wnaeth ergydio o agos yn syth at gôl-geidwad Iran.
Wedi 15 munud, sgoriodd Gholizadeh wedi i Connor Roberts golli meddiant y bêl, ond yn ffodus i Gymru, roedd y chwaraewr yn cam sefyll a pharhau yn gyfartal oedd hi.
Roedd yna fwy nag un achos lle roedd esgeulustod Cymru yn rhoi meddiant i Iran ymosod, a chic gosb ar ôl cic gosb yn fygythiad ar ôl bygythiad i Iran.
Roedd Cymru yn edrych yn fwy cyfforddus ac yn meddianu’r bêl am fwy o amser, gyda chic gosb i Gymru ar ôl 30 munud, ond ymdrech wastraffus gan Aaron Ramsey.
Er bod Cymru yn ymddangos yn fwy cadarn, roedd y ddwy wlad yn parhau i ymosod gyda’r bêl yn symud o un ochr y cae i’r ochr arall yn gyson.
Daeth cyfle i Iran sgorio ar ddiwedd yr hanner cyntaf, wedi i Azmoun dderbyn croesiad o’r asgell dde ond ni lwyddodd i gyrraedd y bêl, gan olygu mai parhau yn ddi-sgor oedd hi ar ôl 45 munud.
Ail hanner
Tro gôl-geidwad Iran oedd wynebu’r haul tanbaid yn yr ail hanner, gyda Chymru yn dechrau yn esgeulus wedi i Ramsey basio pêl beryglus i Roberts a wnaeth orfodi Mepham i glirio’r bêl rhag cyrraedd Azmoun.
Tri chynnig i Gymro? Roedd yna bron dri chynnig i Iran o fewn munud i’w gilydd, gyda Azmoun yn taro’r postyn y tro cyntaf, yna fe wnaeth Gholizadeh ergydio gan daro’r postyn arall cyn i Hennessey arbed peniad arall gan Azmoun.
Fe wnaeth amddiffyn Cymru oroesi cyfle arall gan Iran wedi 55 munud gyda Hajsafi yn ceisio ergydio, ond fe wnaeth Roberts ddefnyddio ei gorff i rwystro’r bêl rhag cyrraedd cefn y rhwyd.
Roedd dau newid ymosodol i Gymru ar ôl 56 munud, gyda Brennan Johnson a Dan James yn dod ymlaen ar gyfer Connor Roberts a Harry Wilson.
Brasgamodd Ethan Ampadu frasgamu yn ôl wedi iddo golli meddiant y bêl a gwneud tacl hollbwysig i rwystro Taremi rhag ergydio yn y cwrt cosbi.
Ar ôl 73 munud, daeth arbediad arwyddocaol gan Wayne Hennessey wedi iddo arbed ergyd gan Pouraliganji.
Er nad yw wedi chwarae i Abertawe ers canol Medi, daeth Joe Allen ymlaen yn lle Ampadu gyda chwarter awr i fynd, gan roi hwb profiadol a hollbwysig i geisio sicrhau buddugoliaeth.
Roedd cyfle i Ben Davies roi Cymru ar y blaen gyda ychydig llai na 10 munud i fynd, gyda Ben Davies yn ergydio’r bêl gan orfodi arbediad gan Hosseini i arbedio a gwibio’r bêl heibio’r traws.
Roedd torcalon i Gymru wedi 85 munud, gyda Wayne Hennessey yn rhedeg allan o’r cwrt cosbi i geisio hawlio’r bêl, ond fe darodd i mewn i Taremi gyda’i goes yn uchel.
Er mai cerdyn melyn gafodd ei roi i gychwyn, fe aeth y dyfarnwr i’r monitor ger y cae a dyfarnu mai cerdyn coch oedd y penderfyniad cywir, gan olygu fod yn rhaid i Hennessey adael y cae a gadael Cymru i chwarae gyda deg dyn am weddill y gêm.
Fel yn y gêm yn erbyn UDA, roedd 9 munud o amser ychwanegol i chwaraewyr Cymru frwydro ymlaen.
Daeth torcalon i Gymru wedi 98 munud, wedi Cheshmi ergydio o du allan y cwrt cosbi a chanfod cefn y rhwyd, gan wneud i chwaraewyr Cymru ddisgyn ar eu gliniau.
Ychydig funudau yn ddiweddarach, sgoriodd Rezaeian i ddyblu’r fantais, gan roi diwedd torcalonnus i Gymru.
Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd capten Cymru, Gareth Bale, yr oedd y canlyniad yn “dorcalonnus.”
“Mae’n un o’r pethau ‘na sydd yn anodd i’w gymryd, ond mae rhaid i ni taro nol a cheisio mynd eto,” meddai.
“Mae mynd i fod yn anodd, ond mae gennym un gêm ar ôl ac mae rhaid i ni edrych ar bob positif.”