Golwg sydyn ar 11 chwaraewr sydd wedi serennu yn hanner cynta’r tymor yn y Cymru Premier JD.
Gregor Zabret – Aberystwyth
Efallai bod Aberystwyth yn stryffaglu tua gwaelod y tabl, ond mae gan y Gwyrdd a’r Duon y 5ed record amddiffynnol orau’n y gynghrair diolch i ddoniau’r golwr o Slofenia. Ac yntau ond yn 26 oed bydd Aberystwyth yn gobeithio dal eu gafael ar y gôl-geidwad dawnus am flynyddoedd i ddod.
George Horan – Cei Connah
Yn 39 oed erbyn hyn mae capten Cei Connah fel gwin coch yn aeddfedu a gwella bob blwyddyn. Y Nomadiaid sydd â’r record amddiffynol orau’n y gynghrair (ildio naw gôl mewn 17 gêm) ac mae Horan yn parhau i fod ymysg y cryfaf a’r dewraf yn y ddau gwrt cosbi.
John Disney – Cei Connah
Un arall o amddiffynwyr cadarn Cei Connah sydd wedi helpu’r tîm i gadw llechen lân ym mhob un o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf. Mae Disney yn chwaraewr dibynadwy sy’n cadw pethau’n syml ond effeithiol ac yn darllen y gêm gystal a neb yn y gynghrair.
Kane Owen – Pen-y-bont
Capten Pen-y-bont sydd berchen ar droed chwith fwyaf peryglus y gynghrair. Mae’r cefnwr chwith wedi arwain tîm Rhys Griffiths i’r hanner uchaf eto eleni ac mae ei dechneg a’i safon o giciau gosod yn arf amhrisiadwy i Ben-y-bont.
Lifumpa Mwandwe – Y Drenewydd
Yn gyflym, llawn sgiliau ac hyder – Lifumpa Mwandwe ydi’r un chwaraewr ‘da chi ddim eisiau gorfod ei farcio y tymor hwn. Mae’r asgellwr chwim wedi ennill mwy o giciau rhydd na neb yn y gynghrair, ac yn ogystal â sgorio pedair gôl ei hun, mae wedi creu saith gôl i’r Robiniaid.
Jon Routledge – Y Seintiau Newydd
Jon Routledge yw’r chwaraewr canol cae amddiffynnol gorau’n y gynghrair heb os nac oni bai. Yn tarfu ar chwarae’r gwrthwynebwyr gan eistedd o flaen yr amddiffyn, mae Routledge wedi datblygu ei gêm yn ddiweddar i ddechrau symudiadau ymosodol ac mae ei wasanaeth wedi bod yn allweddol wrth ddod a llwyddiant i Groesoswallt.
David Edwards – Y Bala
Yng nghanol tymor sydd wedi bod yn ddigon di-fflach i’r Bala, mae David Edwards wedi cynnig sbarc o gyffro ers ymuno yn yr haf. Mae’r cyn-chwaraewr rhyngwladol wedi rhwydo naw gôl gynghrair i dîm Maes Tegid ac wedi dangos parch ac urddas wrth ddechrau ar ei her newydd fel chwaraewr rhan amser yn Uwch Gynghrair Cymru.
Robert Hughes – Caernarfon
Mae’n edrych fel bod Robert Hughes yn ôl ar ei orau wedi ei symudiad i’r Oval yn yr haf. Mae’r asgellwr twyllodrus wedi creu mwy o goliau nac unrhyw un yn y gynghrair y tymor yma (9) ac mae cael y Cofi Army yn gefn iddo yn amlwg wedi rhoi hwb i’w hyder.
Jack Kenny – Y Fflint
Mae Jack Kenny wedi ffynnu wrth chwarae fel partner i’r profiadol Michael Wilde yn llinell flaen Y Fflint y tymor hwn. Mae’r ddau ymosodwr corfforol wedi cyrraedd ffigyrau dwbl o ran goliau gan roi cyfle gwirioneddol i’r ceffylau duon o gyrraedd Ewrop eleni.
Aaron Williams – Y Drenewydd
Gyda 21 o goliau ym mhob cystadleuaeth y tymor yma, yn cynnwys pedwar hatric, teg dweud bod Aaron Williams wedi bod yn arwyddiad llwyddiannus i’r Drenewydd. Does neb wedi sgorio mwy nac 11 gôl gynghrair mewn tymor i’r Robiniaid yn y pedair blynedd diwethaf, ond mae Williams wedi pasio hynny gyda hanner y tymor ar ôl i’w chwarae.
Declan McManus – Y Seintiau Newydd
Gyda phris uchel daw disgwyliadau uchel, ond ar ôl i’r Seintiau dorri’r record a thalu £60,000 am yr ymosodwr o’r Alban mae yntau wedi profi ei werth drwy godi i frig rhestr prif sgorwyr y gynghrair gyda 16 gôl mewn 17 gêm. Mae McManus yn gallu gwarchod y bêl yn wych gan ddod ac eraill i mewn i’r gêm, ac yn ogystal a sgorio llwyth ei hun mae wedi creu pum gôl i’w gyd-chwaraewyr.