Y Seintiau Newydd (1af) v Bae Colwyn (11eg) | Nos Fawrth – 19:45
Mae’r Seintiau Newydd driphwynt yn glir o Gei Connah ar gopa’r cynghrair, a gyda’r gêm hon wrth gefn, bydd Craig Harrison yn awyddus i agor bwlch ehangach ar y brig.
Ar ôl ennill 2-0 yn erbyn Y Bala ddydd Sadwrn, mae’r Seintiau Newydd bellach ar rediad o 19 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth (ennill 17, cyfartal 2).
Mae’n stori dra wahanol ym Mae Colwyn, sydd yn hafal ar bwyntiau gydag Aberystwyth ar waelod y tabl gyda’r Gwylanod heb ennill mewn pum gêm gynghrair (cyfartal 1, colli 4).
Dim ond dwywaith yn y gorffennol y mae’r timau wedi cyfarfod gyda’r Seintiau’n ennill 1-0 yn y ddwy gêm flaenorol, ond bydd rheolwr Bae Colwyn, Steve Evans yn ysu i greu argraff wrth ddychwelyd i wynebu’r clwb ble enillodd saith pencampwriaeth.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Bae Colwyn: ͏❌❌➖❌❌