Y Seintiau Newydd, Cei Connah a’r Bala yn colli eu gemau yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa.
B36 Torshavn 2-2 Y Seintiau Newydd (5-4 ar giciau o’r smotyn)
Colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn y tîm o Ynysoedd y Faroe oedd hanes tîm Scott Ruscoe.
Fe ildiodd Y Seintiau yn hwyr yn amser ychwanegol i yrru’r gêm i giciau o’r smotyn, gyda Dean Ebbe a Danny Redmond yn methu cyfleoedd i yrru’r tîm cartref i drydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa.
Cei Connah 0-1 Dinamo Tbilisi
Cei Connah yn ildio cic o’r smotyn yn yr eiliadau olaf wrth i Callum Roberts faglu Pernambuco yn y cwrt cosbi. Sgoriodd Giorgi Gabedava wrth dorri calonnau’r Nomadiaid.
Standard Liege 2-0 Y Bala
Fe aeth y tîm o Wlad Belg ar y blaen ar ôl 19 munud, Felipe Avenatti yn sgorio o’r smotyn ar ôl i Steve Leslie droseddu yn y cwrt cosbi.
Cafodd Y Bala cyfle eu hunain o’r smotyn ond methu oedd hanes Chwaraewr y tymor 2019/20, Chris Venables, gyda’r golwr yn arbed ei gynnig.
Fe aeth y tîm cartref yn eu bleunau I sgorio et oar ôl yr egwyl, gwyriad oddi ar Selim Amallah yn curo Alex Ramsay yn y gôl.