Bydd Sgorio yn dangos 11 gêm Cymru Premier JD byw dros gyfod o chwe wythnos yn ystod mis Hydref a Thachwedd.
Gyda gemau pêl-droed dal yn cael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig, bydd Sgorio yn teithio ledled y wlad i ddangos gemau pêl droed o’r safon uchaf yng Nghymru.
Yn ogystal â gemau byw ar y teledu bob nos Sadwrn dros yr wythnosau i ddod, bydd gemau i’w weld yn fyw ar y we bob wythnos yn ystod mis Hydref, ar dudalennau Facebook a Youtube Sgorio, ac ar S4C Clic.
Ar nos Sadwrn 3 Hydref, byddwn yn gweld Caernarfon yn ymweld â Met Caerdydd (CG 17.15), cyn dilyn y Cofis i gartref y pencampwyr, Cei Connah, ar gyfer y gêm fawr nos Fawrth 6 Hydref, i’w weld yn fyw ar y we (19.45).
Bydd Bala yn croesawu Aberystwyth i Faes Tegid ar nos Sadwrn 10 Hydref ar gyfer y gêm deledu byw (17.15), cyn gêm fawr arall ar nos Fawrth 13 Hydref, rhwng Y Seintiau Newydd a Chei Connah, fydd yn cael ei ddangos fel gwe-ddarllediad byw (19.45).
Bydd y camerâu Sgorio ym Mharc Jenner ar nos Sadwrn 17 Hydref wrth i Gei Connah ymweld â’r Barri (17.15), cyn dychwelyd i Stadiwm Glannau Dyfrdwy ar nos Wener 23 Hydref ar gyfer yr ornest rhwng y Nomadiaid a’r Drenewydd (19.45), fydd i’w gweld yn fyw ar y we.
Ar nos Sadwrn 24 Hydref, bydd Caernarfon yn croesawu Aberystwyth i’r Oval mewn gêm deledu Sgorio byw (17.15), tra bod Aber yn dychwelyd adref i Goedlan y Parc ar nos Wener 30 Hydref i herio Pen-y-bont, mewn gêm fydd yn cael ei dangos fel gwe-ddarllediad byw (19.45).
Noson yn ddiweddarach ar nos Sadwrn 31 Hydref, fe fydd Sgorio yn dangos y gêm rhwng Cei Connah a’r Seintiau Newydd yn fyw ar y teledu (17.15).
Fe fydd Derwyddon Cefn v Y Bala yn fyw ar y teledu (17.15) ar nos Sadwrn 7 Tachwedd, yn ogystal â’r gêm rhwng Y Seintiau Newydd a’r Barri ar nos Sadwrn 14 Tachwedd (17.15).
Bydd uchafbwyntiau o holl gemau’r gynghrair i’w weld ar Sgorio Stwnsh, pob nos Lun am 17.25, ac ar Mwy o Sgorio, am 22.00 bob nos Fercher.
Dilynwch @sgorio ar Facebook, Twitter ac Instagram ar gyfer y goliau, ymateb a’r newyddion diweddaraf o bêl-droed Cymru.