Sgorio Rhyngwladol – Cymru v Estonia
Gêm ragbrofol Cwpan y Byd rhwng Cymru ac Estonia yn fyw ar S4C nos Fercher am 7.25
Mae ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn parhau gyda gêm ragbrofol gartref yn erbyn Estonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae Cymru wedi ennill eu hunig ddwy gêm flaenorol yn erbyn Estonia mewn gemau cyfeillgar yn 2009 ac 1994, ond hon fydd y gêm gystadleuol gyntaf erioed rhwng y ddwy wlad.
Yr holl gyffro yng nghwmni Dylan Ebenezer, John Hartson, Owain Tudur Jones, Gwennan Harries a Malcolm Allen. C/G 7.45.