S4C

Navigation

Pêl-droed rhyngwladol yn fyw – y gêm gyfeillgar rhwng Gibraltar a Chymru o’r Estadio Algarve, Faro.

Ar ôl diweddglo dramatig ond siomedig i’r ymgyrch i gyrraedd Euro 2024, mae golygon Rob Page a’i garfan yn troi at Gynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Ond cyn y gemau rheiny’n yr hydref, mae dwy gêm gyfeillgar i arbrofi ac adeiladu momentwm.

Gibraltar yw’r gwrthwynebwyr a chyfle i wynebau newydd greu argraff.

Y cyfan yn fyw yng nghwmni Dylan Ebenezer, Owain Tudur Jones, Sioned Dafydd a gweddill tîm Sgorio.

Tîm Cymru

Cyhoeddodd Rob Page garfan o 25 chwaraewr, Ddydd Mercher Mai 29 ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod, ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn Gibraltar a Slofacia.

Newidiadau ers y garfan ddiwethaf – Ben Cabango, Joe Low a Wes Burns yn dychwelyd gyda Fin Stevens, Charlie Crew a Lewis Koumas yn cael eu galw i’r tîm cyntaf am y tro cyntaf. 7 enw o’r garfan ddiwethaf ar goll – Wayne Hennessey, Neco Williams, Morgan Fox, Aaron Ramsey, Harry Wilson, David Brooks a Dylan Levitt.

Mae’n gyle i Rob Page arbrofi gyda’r tô ifanc sydd yn dod trwyddo wrth i Gymru baratoi ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd v Twrci a Montenegro ym mis Medi.

 

 

 

 

 

 

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?