Bydd Cymru yn croesawu’r Weriniaeth Tsiec i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth (30/03/21) ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2022, gyda’r gêm yn fyw ar S4C am 7.25, y gic gyntaf am 7.45.
Dyw Cymru erioed wedi curo’r Weriniaeth Tsiec a bydd gofyn i Gymru fod ar eu gorau os am ennill yn erbyn tîm sydd ar frig y grŵp ragbrofol ar ol curo Belarws 2-6 a sicrhau gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gwlad Belg.
Tîm Cymru
Rob Page sydd yn gyfrifol eto am y tîm ar gyfer y gêm yn absenoldeb Giggs, gyda chefnogaeth Albert Stuivenberg.
Bydd Harry Wilson a prif sgoriwr holl hanes Cymru, Gareth Bale yn holliach ar gyfer y gêm nos Fawrth ar ôl cyfuno i sgorio gôl agoriadol Cymru yn y gemau rhagbrofol – symudiad un cyffyrddiad gwych rhwng Connor Roberts, Gareth Bale i fwydo Harry Wilson i agor y sgorio yn y golled yn erbyn Gwlad Belg.
👏⚽🏴
Another look at Harry Wilson’s goal for @Cymru.Golwg arall ar y gôl – pasio cyflym un cyffyrddiad. Gwych gan Gymru. pic.twitter.com/Rb17HtIWCI
— ⚽ Sgorio (@sgorio) March 25, 2021
Ar goll / Anafiadau
Joe Allen yn methu’r gêm ar ôl anafu wedi dim ond wyth munud o’r gêm yn erbyn Gwlad Belg nos Iau.
Cyhoeddwyd mewn datganiad gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru ddydd Llun bod Hal Robson-Kanu, Rabbi Matondo a Tyler Roberts wedi cael eu rhyddhau o’r garfan ar ôl torri protocol y Gymdeithas.
Record Cartref
Bydd Robert Page yn edrych i gynnal record gartref gadarn iawn o 11 gêm heb golli sy’n cynnwys naw buddugoliaeth.
Mae’r rhediad yn ymestyn nôl i ddwy golled gefn wrth gefn yn Hydref a Thachwedd 2018 – 1-4 i Sbaen (gêm gyfeillgar yn Stadiwm Principality) a 1-2 i Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Grŵp E gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2022
Gweriniaeth Tsiec ar frig grŵp E wedi i dîm Jaroslav Šilhavý guro Estonia a sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg nos Sadwrn.
Sgoriodd Tomáš Souček hat-tric yn y fuddugoliaeth yn erbyn Estonia nos Iau, a bydd rhaid i Gymru fod yn wyliadwrus o’r chwaraewr canol cae sydd wedi sgorio naw gôl i West Ham yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn.
Mawrth 24ain | Gwlad Belg | 3 – 1 | Cymru |
Estonia | 2 – 6 | Gweriniaeth Tsiec | |
27ain | Belarws | 4 – 2 | Estonia |
Gweriniaeth Tsiec | 1 – 1 | Gwlad Belg | |
30ain | Gwlad Belg | – | Belarws |
Cymru | – | Gweriniaeth Tsiec | |
Medi 2il | Gweriniaeth Tsiec | – | Belarws |
Estonia | – | Gwlad Belg | |
5ed | Belarws | – | Cymru |
Gwlad Belg | – | Gweriniaeth Tsiec | |
8fed | Belarws | – | Gwlad Belg |
Cymru | – | Estonia | |
Hydref 8fed | Gweriniaeth Tsiec | – | Cymru |
Estonia | – | Belarws | |
11eg | Belarws | – | Gweriniaeth Tsiec |
Estonia | – | Cymru | |
Tachwedd 13eg | Gwlad Belg | – | Estonia |
Cymru | – | Belarws | |
16eg | Gweriniaeth Tsiec | – | Estonia |
Cymru | – | Gwlad Belg |