S4C

Navigation

Sgorio Rhyngwladol – Cymru v Mecsico

Gêm gyfeillgar ryngwladol yn fyw o Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn (27/03/21) am 7.30, gyda’r gic gyntaf am 8.

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer rowndiau terfynol Euro 2020 dros yr haf, mae’r gêm gyfeillgar hon yn gyfle prin i arbrofi ac i’r chwaraewyr ar y cyrion wneud eu cais am le yn y garfan hollbwysig.

Mae’r gwledydd wedi cwrdd pedair gwaith a Chymru heb ennill unwaith, gan golli a chael gêm gyfartal yn y gemau’n erbyn Mecsico dros y degawd diwethaf.

Y cyfan yn fyw yng nghwmni Dylan Ebenezer, Owain Tudur Jones, Gwennan Harries a John Hartson.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?