S4C

Navigation

Bydd Sgorio yn darlledu gemau rhagbrofol Ewropeaidd gan ddangos bob un o’r clybiau sy’n cynrychioli Cymru y tymor hwn.

Mewn ymrwymiad na welwyd ei fath o’r blaen, bydd deunydd o bob un o gemau’r rownd ragbrofol gyntaf ar gael gan S4C, yn cynnwys darllediadau byw o 5 o’r 6 gêm.

Bydd ymgyrch Y Seintiau Newydd yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA yn dechrau gyda darllediadau byw ar deledu llinol o’r ddau gymal o’u gemau yn erbyn KF Shkendija o Ogledd Macedonia.

Bydd y cymal cyntaf yn fyw ar S4C yng nghwmni Nicky John a’r tîm nos Fawrth, 8 Gorffennaf am 6.45, gyda chlipiau ac uchafbwyntiau hefyd ar gael ar yr un noson ar blatfformau Sgorio o gymal cyntaf Hwlffordd yng Nghyngres UEFA, oddi cartref yn Floriana ar Ynys Melita.

Nos Iau 10 Gorffennaf, bydd cymal cyntaf ymgyrch Pen-y-bont yn y Gyngres yn cael ei darlledu’n fyw arlein ac ar deledu clyfar, oddi cartref yn Lithwania yn erbyn Kauno Zalgiris, am 5.45.

Yr wythnos ganlynol, cawn weld ail gymal bob un o’r clybiau yn fyw, gan ddechrau gyda’r Seintiau Newydd ar deledu oddi cartref am 6.45 nos Fawrth 15 Gorffennaf.

Yna nos Iau 17 Gorffennaf, bydd gemau cartref Pen-y-bont a Hwlffordd yn cael eu darlledu’n fyw, gyda’r ddwy ar gael yr un pryd, ar blatfformau digidol Sgorio o 5.45 ymlaen.

Bydd clipiau, uchafbwyntiau a chyfweliadau hefyd ar gael ar draws cyfrifon Sgorio arlein, gan gynnig gwasanaeth cynhwysfawr o gemau Ewropeaidd clybiau Cymru yn y rownd ragbrofol gyntaf.

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?