S4C

Navigation

Golwg sydyn ar ambell i chwaraewyr sydd tua’r brig o ran ystadegau wrth i ni gyrraedd hanner ffordd drwy’r tymor yn y Cymru Premier JD.

 

RYAN BROBBEL – Y SEINTIAU NEWYDD

Goliau: 10         Creu: 6             Cyfraniad Goliau: 16

Does neb wedi cyfrannu at fwy o goliau y tymor hwn na chwaraewr creadigol y pencampwyr, sy’n dal i brofi ei fod yn un o chwaraewyr mwyaf talentog y gynghrair. Bydd Brobbel yn anelu i guro ei record llynedd, pan orffennodd y tymor gyda 33 cyfraniad gôl, sef y nifer fwyaf yn y gynghrair (sgorio 15, creu 18). Yn 30 mlwydd oed bellach, Brobbel yw prif sgoriwr Y Seintiau Newydd yn y gynghrair eleni, ac ar ôl cyrraedd rhestr fer ‘Chwaraewr y Tymor’ am y dair blynedd diwethaf, tybed ai’r tymor yma bydd y tro cyntaf iddo fynd gam ymhellach a chael ei ddwylo ar y wobr.

JORDAN DAVIES – CEI CONNAH

Goliau: 11         Creu: 2             Cyfraniad Goliau: 13

Bydd Neil Gibson yn hynod falch ei fod wedi gallu denu’r ymosodwr cyffrous Jordan Davies yn ôl i Gei Connah dros yr haf, a dyw’r gŵr 28 oed heb siomi ers dychwelyd i Lannau Dyfrdwy. Gyda 17 gôl mewn 19 gêm ddomestig, sy’n cynnwys dau hatric yng Nghwpan Cymru yn erbyn Caernarfon a Phrestatyn, mae Davies yn sicr wedi serennu, ac hynny ar ôl helpu Hwlffordd i gyrraedd Ewrop y tymor diwethaf gyda 14 gôl gynghrair. Mae dros 10 mlynedd ers i Neil Gibson ennill un o brif dlysau Cymru fel rheolwr, a bydd yn gobeithio gall Davies barhau i ddisgleirio yng Nghwpan Cymru pan fydd y Nomadiaid yn wynebu’r Fflint yn rownd yr wyth olaf ym mis Rhagfyr.

 

ADAM DAVIES – CAERNARFON

Goliau: 10         Creu: 3             Cyfraniad Goliau: 13

Adam Davies ydi’r chwaraewr cyntaf i daro ffigyrau dwbl i Gaernarfon yn y gynghrair ers pum mlynedd, pan sgoriodd Nathan Craig 13 o goliau yn nhymor 2018/19. Yn ogystal â hynny, mae Davies wedi creu tair gôl ac felly dim ond Ryan Brobbel sydd wedi cyfrannu at fwy o goliau cynghrair y tymor hwn. Mae Davies wedi datblygu partneriaeth effeithiol gyda Zack Clarke, sydd hefyd wedi rhwydo saith gôl, sef cyfanswm terfynol prif sgorwyr Caernarfon y tymor diwethaf (Fidel O’Rourke a Joe Faux). Mae’r Cofis yn sicr wedi cryfhau’n ymosodol, ond bydd angen tynhau yn y cefn os am ddal eu gafael ar le yn y Chwech Uchaf.

 

AARON WILLIAMS – Y DRENEWYDD

Goliau: 12         Creu: 0             Cyfraniad Goliau: 12

Pan gyhoeddwyd bod Jason Oswell yn ail-ymuno gyda’r Drenewydd dros yr haf roedd hi’n anodd gweld sut byddai hynny’n dylanwadau ar ddatblygiad y blaenwr presennol Aaron Williams. Ond ar ôl taro ffigyrau dwbl i’r Robiniaid yn ei ddau dymor blaenorol, mae Williams wedi ei gwneud hi eto eleni ac yn eistedd ar frig rhestr prif sgorwyr y gynghrair gyda 12 gôl. Mae’r ymosodwr 30 oed yn gallu sgorio bob math o goliau, fel y profodd gyda’i hatric yn erbyn Caernarfon yn ddiweddar, gyda un o’i goliau yn cael ei dewis fel enillydd Gôl y Mis Hydref ar ôl iddo reoli’n feistrolgar ar ei frest cyn gyrru foli nerthol i gornel ucha’r rhwyd.

 

CHRIS VENABLES – PEN-Y-BONT

Goliau: 11         Creu: 1             Cyfraniad Goliau: 12

Efallai nad yw Pen-y-bont wedi cyrraedd eu llawn botensial yn rhan gynta’r tymor, ond mae Chris Venables wedi profi ei fod o’n ychwanegiad gwerthfawr i’r garfan gan ei fod wedi sgorio hanner goliau’r tîm yn y gynghrair cyn belled (11 allan o 22). Yn 38 mlwydd oed, mae Venables yn parhau i allu darllen y gêm yn wych a sicrhau ei fod yn y lle iawn i roi’r bêl yng nghefn y rhwyd dro ar ôl tro. Bydd y blaenwr yn benderfynol o ychwanegu chweched Esgid Aur i’r casgliad eleni, ond yn fwy na hynny bydd Pen-y-bont yn dibynnu’n fawr ar ei gyfraniad os am gadarnhau lle yn y Chwech Uchaf er mwyn cystadlu am le’n Ewrop unwaith eto.

 

BEN CLARK – Y SEINTIAU NEWYDD

Goliau: 7           Creu: 5             Cyfraniad Goliau: 12

Mae Ben Clark wedi datblygu i fod yn un o chwaraewyr mwyaf dylanwadol y gynghrair, ac er bod eraill yn tueddu i ddwyn y penawdau mae hynny o bosib yn gweithio o blaid y chwaraewr canol cae 23 mlwydd oed sydd weithiau’n sleifio ‘o dan y radar’. Sgoriodd Clark 13 o goliau a chreu pedair y tymor diwethaf, ac mae ei ystadegau yn arbennig unwaith eto eleni gyda’r gŵr ifanc wedi aeddfedu i fod yn un o aelodau mwyaf gwerthfawr y garfan. Mae’n syndod efallai nad oes clybiau mwy wedi dod i gnocio ar y drws, ond os mae aros yn Neuadd y Parc yw dyfodol Clark yna mae’n sicr o gael gyrfa lwyddiannus, a bydd ei gwpwrdd tlysau yn llawn dop.

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?