S4C

Navigation

Gyda’r tymor JD Cymru Premier yn ail-ddechrau, bydd Sgorio yn dangos saith gêm byw yn ystod mis Mawrth.

Wrth i’r timau gyrraedd diwedd Cyfnod Un y tymor, mae’r ras i gyrraedd y Chwech Uchaf yn poethi a bydd modd dilyn y cyfan gyda darllediadau byw ac uchafbwyntiau Sgorio.

Bydd gêm byw i’w weld ar deledu bob wythnos, gyda detholiad o gemau ganol wythnos yn cael eu gwê-ddarlledu ar S4C Clic a thudalennau Facebook ac Youtube Sgorio.

Ar nos Fawrth 2 Mawrth, bydd y gêm rhwng Y Drenewydd a Pen-y-bont yn cael ei dangos yn fyw ar y we am 8.00yh. Y gêm gyntaf i ddychwelyd i’r teledu bydd yr ornest hollbwysig rhwng Y Seintiau Newydd a’r Bala, ar nos Sadwrn 6 Mawrth, yn fyw am 4.45yh.

Ar nos Fawrth 9 Mawrth am 7.45pm, bydd modd gwylio’r gêm rhwng Y Barri a Phen-y-bont yn fyw ar-lein, cyn i gamerâu Sgorio ymweld â Dôl y Bont ar gyfer y gêm rhwng Hwlffordd a’r Seintiau Newydd, fydd i’w gweld yn fyw ar S4C am 4.45yh.

Bydd gwe-ddarllediad o’r gêm fawr rhwng Y Bala a Chei Connah i’w weld ar nos Fawrth 16 Mawrth am 7.45yh, cyn i Sgorio ddychwelyd i Faes Tegid ar brynhawn Sadwrn 20 Mawrth ar gyfer y gêm ddarbi Gwynedd rhwng y Bala a Chaernarfon, fydd yn cael ei dangos ar S4C am 2.30yh.

Yna ar ddydd Sadwrn 27 Mawrth, bydd y gêm rhwng Caernarfon a Met Caerdydd yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C, am 2.30yh

Bydd rhaglenni uchafbwyntiau Sgorio yn ail-ddechrau ar nos Lun 8 Mawrth, gyda Sgorio Stwnsh am 5.30yh, ac yna Mwy o Sgorio, am 10.00yh ar nos Fercher 10 Mawrth.

Yn ogystal, mi fydd Sgorio yn cynnig gwasanaeth ar-lein heb-ei-ail, gydag uchafbwyntiau o bob gêm o’r JD Cymru Premier, cyfweliadau ecsgliwsif a newyddion pêl-droed ar gyfryngau cymdeithasol ac ar wefan Sgorio – s4c.cymru/sgorio.

Ar gyfer y diweddaraf o bêl-droed Cymru, dilynwch @sgorio ac @s4cchwaraeon ar Twitter, Facebook ac Instagram.

Gemau Byw Sgorio – Mawrth 2021

Nos Fawrth 2 Mawrth – Y Drenewydd v Pen-y-Bont – 8.00yh – Ar-lein
Dydd Sadwrn 6 Mawrth – Y Seintiau Newydd v Y Bala – 4.45yh – S4C
Nos Fawrth 9 Mawrth – Y Barri v Pen-y-Bont  – 7.45yh – Ar-lein
Dydd Sadwrn 13 Mawrth  – Hwlffordd v Y Seintiau Newydd – 4.45yh – S4C
Nos Fawrth 16 Mawrth – Y Bala v Cei Connah – 7.45yh – Ar-lein
Dydd Sadwrn 20 Mawrth  – Y Bala v Caernarfon – 2.30yh – S4C
Dydd Sadwrn 27 Mawrth – Caernarfon v Met Caerdydd – 2.30yh – S4C

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?