Mae’r tymor cyffredinol wedi dod i ben ac mae’r Seintiau Newydd a Pen-y-bont wedi sicrhau eu lle’n Ewrop, ond mae un tocyn arall ar ôl i enillydd y gemau ail gyfle.
Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am yr 17eg tro yn eu hanes, ac am y pedwerydd tymor yn olynol, gan sicrhau lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
Pen-y-bont orffennodd yn yr ail safle am y tro cyntaf erioed, a gan i’r Seintiau gwblhau’r trebl trwy guro Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru, mae Pen-y-bont felly yn camu’n syth i Ewrop.
Am y tro cyntaf ers 21 o flynyddoedd mae Hwlffordd wedi cadarnhau’r 3ydd safle, ac felly mae nhw’n cael pas yn syth i rownd derfynol y gemau ail gyfle i wynebu enillwyr y gêm hon rhwng Caernarfon a Met Caerdydd.
Caernarfon (4ydd) v Met Caerdydd (5ed) | Dydd Sul – 17:10 (S4C)
Am yr ail dymor yn olynol, ac am y pedwerydd tro ers 2019, mi fydd Caernarfon yn croesawu Met Caerdydd i’r Oval yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle Ewropeaidd.
Mae unai Caernarfon neu Met Caerdydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle mewn chwech o’r saith tro diwethaf, ond dyw’r clybiau erioed wedi cyfarfod yn y ffeinal.
Mi fydd hi’n union chwe mlynedd ers gornest gyntaf Caernarfon yn y gemau ail gyfle, ac honno gartref yn erbyn Met Caerdydd ble beniodd Darren Thomas y Caneris ar y blaen wedi 19 munud a daeth wal yr Oval i lawr yng nghanol y dathliadau y tu ôl i’r gôl.
Ond fe ymladdodd Met Caerdydd yn ôl i mewn i’r gêm gyda goliau gan Chris Baker, Adam Roscrow a Kyle McCarthy, a doedd cic o’r smotyn hwyr Nathan Craig ddim yn ddigon i achub y Cofis (Cfon 2-3 Met).
Aeth Met Caerdydd ymlaen i guro’r Bala ar giciau o’r smotyn yn y rownd derfynol y flwyddyn honno gan gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf ers sefydlu’r clwb presennol yn 2000.
Roedd y myfyrwyr wedi cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle ar ddiwedd eu tymor cyntaf yn yr uwch gynghrair yn 2016/17, cyn colli o 1-0 yn erbyn Bangor, ac fe ddigwyddodd hynny eto y tymor canlynol gyda Met Caerdydd yn curo’r Barri yn y rownd gynderfynol cyn colli o 1-0 yn erbyn Derwyddon Cefn yn y ffeinal yn 2017/18.
Wedi un tymor o saib oherwydd Covid-19, Caernarfon oedd yn y rownd derfynol yn 2020/21 ar ôl curo’r Barri, ond colli’n ddramatig oedd hanes y Cofis yn erbyn Y Drenewydd (Cfon 3-5 Dre).
Yn 2021/22 roedd Caernarfon a Met Caerdydd yn cyfarfod yn y rownd gynderfynol unwaith eto, a’r Caneris oedd yn fuddugol y diwrnod hwnnw gyda Mike Hayes yn rhwydo unig gôl y gêm.
Aeth Caernarfon ymlaen i ennill y gemau ail gyfle drwy drechu’r Fflint yn y rownd derfynol, ond tocyn i Gwpan Her yr Alban oedd y wobr y tymor hwnnw, yn hytrach na thaith i Ewrop.
Collodd Met Caerdydd yn y rownd gynderfynol yn erbyn Hwlffordd yn 2022/23, cyn colli eto’n y rownd gynderfynol yn erbyn Caernarfon y tymor diwethaf.
Roedd hi’n gêm dynn ar yr Oval ac roedd angen goliau hwyr gan Marc Williams ac Adam Davies i gipio’r fuddugoliaeth ar y noson (Cfon 2-0 Met).
Ac yna ar brynhawn hanesyddol i glwb pêl-droed Caernarfon fe lwyddodd y Cofis i sgorio deirgwaith yn yr hanner cyntaf yn y rownd derfynol yn erbyn Pen-y-bont a sicrhau eu lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes (Cfon 3-1 Pen).
Tymor | Rownd | Met Caerdydd | Caernarfon |
2016/17 | Rownd Gynderfynol | Caerfyrddin 1-2 Met | – |
Rownd Derfynol | Bangor 1-0 Met | – | |
2017/18 | Rownd Gynderfynol | Met 4-1 Y Barri | – |
Rownd Derfynol | Der Cefn 1-0 Met | – | |
2018/19 | Rownd Gynderfynol | Cfon 2-3 Met | Cfon 2-3 Met |
Rownd Derfynol | Y Bala 1-1 Met (cos) | – | |
2019/20 | Dim gemau ail gyfle | – | – |
2020/21 | Rownd Gynderfynol | – | Y Barri 1-3 Cfon |
Rownd Derfynol | – | Cfon 3-5 Y Drenewydd | |
2021/22 | Rownd Gynderfynol | Cfon 1-0 Met | Cfon 1-0 Met |
Rownd Derfynol | – | Cfon 2-1 Y Fflint | |
2022/23 | Rownd Gynderfynol | Met 0-0 Hwlffordd (cos) | – |
2023/24 | Rownd Gynderfynol | Cfon 2-0 Met | Cfon 2-0 Met |
Rownd Derfynol | – | Cfon 3-1 Pen-y-bont | |
2024/25 | Rownd Go-gynderfynol | Met 1-0 Y Bala | Cfon 5-2 Y Barri |
Rownd Gynderfynol | Cfon v Met | Cfon v Met | |
Rownd Derfynol |
Record yn y gemau ail gyfle:
Met Caerdydd: Cymryd rhan – 6 | Ennill – 1 (17%)
Gemau – 10 | Ennill – 6 (60%)
Caernarfon: Cymryd rhan – 4 | Ennill – 2 (50%)
Gemau – 8 | Ennill – 6 (75%)
Yn y gorffennol mae nifer o dimau wedi dioddef cwymp yn eu perfformiadau ar ôl eu profiad cyntaf yn Ewrop, ond mae Caernarfon wedi adeiladu ar eu llwyddiant llynedd gan orffen un safle’n uwch y tymor hwn.
Mae tîm Richard Davies wedi sicrhau’r 4ydd safle gan ddod yn hafal â’u tymor gorau erioed yn yr uwch gynghrair (4ydd yn 2018/19 a 2021/22).
Bydd Caernarfon yn anelu i fod y tîm cyntaf i ennill y gemau ail gyfle am ddau dymor yn olynol wedi i’r Cofis guro’r gystadleuaeth y flwyddyn diwethaf a chamu i Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Mae gan Gaernarfon record gryf iawn yn y gemau ail gyfle ar ôl ennill eu pum gêm ddiwethaf yn y gystadleuaeth.
Mae’r Cofis wedi profi eu bod yn gallu perfformio dan bwysau, a bydd y garfan yn llawn hyder ar ôl rhoi crasfa o 5-2 i’r Barri yn y rownd go-gynderfynol eleni.
Louis Lloyd oedd seren y Caneris yn erbyn Y Barri, yn sgorio pedair o goliau a chreu’r llall, ac mae enillydd yr Esgid Aur eisoes wedi sgorio pedair gôl mewn pedair gêm yn erbyn Met Caerdydd y tymor hwn.
Cafodd Met Caerdydd ddiweddglo digon siomedig i’r tymor trwy fynd ar rediad o bum gêm heb ennill (cyfartal 3, colli 2).
Ond mae hynny’n hen hanes bellach, ar ôl i’r myfyrwyr guro’r Bala yn rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle gyda’u prif sgoriwr eleni, Ryan Reynolds, yn sgorio unig gôl y gêm yn yr eiliadau olaf.
Yn y chwe gêm flaenorol rhwng y clybiau yma mae’r timau wedi ennill a cholli am yn ail, ac felly os yw’r patrwm am barhau, gan mae Caernarfon enillodd yr ornest ddiwethaf o 2-1 ar yr Oval, tro’r myfyrwyr yw hi i ennill yr wythnos hon.