S4C

Navigation

Mae’r tymor cyffredinol wedi dod i ben ond mae dau le’n Ewrop dal yn y fantol wrth i ni droi’r sylw tuag at y gemau ail gyfle a rownd derfynol Cwpan Cymru JD. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill y bencampwriaeth am yr 17eg tro yn eu hanes, ac am y pedwerydd tymor yn olynol gan sicrhau lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr. 

Mae Pen-y-bont wedi selio’r ail safle am y tro cyntaf erioed, a pe bae’r Seintiau’n llwyddo i guro Cei Connah yn rownd derfynol Cwpan Cymru ymhen pythefnos yna mi fydd Pen-y-bont yn camu’n syth i Ewrop. 

Am y tro cyntaf ers 21 o flynyddoedd mae Hwlffordd wedi cadarnhau’r 3ydd safle, ac felly mae nhw’n osgoi’r rownd gyntaf yn y gemau ail gyfle. 

Bydd Caernarfon (4ydd) yn croesawu’r Barri (7fed) i’r Oval brynhawn Sadwrn yn rownd go-gynderfynol y gemau ail gyfle, tra bydd Met Caerdydd (5ed) yn wynebu’r Bala (6ed).  

Bydd yr enillwyr yn camu ymlaen i’r rownd gynderfynol ar 10/11 Mai, ond ni fydd eu gwrthwynebwyr yn cael eu cadarnhau tan ar ôl rownd derfynol Cwpan Cymru JD. 

  

 

Caernarfon (4ydd) v Y Barri (7fed) | Dydd Sadwrn – 12:15 

Bydd Caernarfon yn anelu i fod y tîm cyntaf i ennill y gemau ail gyfle am ddau dymor yn olynol wedi i’r Cofis guro’r gystadleuaeth y flwyddyn diwethaf a chamu i Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Yn y gorffennol mae nifer o dimau wedi dioddef cwymp yn eu perfformiadau ar ôl eu profiad cyntaf yn Ewrop, ond mae Caernarfon wedi adeiladu ar eu llwyddiant llynedd gan orffen un safle’n uwch y tymor hwn.  

Trwy guro Met Caerdydd y penwythnos diwethaf mae tîm Richard Davies wedi sicrhau’r 4ydd safle gan ddod yn hafal â’u tymor gorau erioed yn yr uwch gynghrair (4ydd yn 2018/19 a 2021/22). 

Am y tro cyntaf ers pedair blynedd mi fydd Y Barri’n cystadlu yn y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop wedi i’r clwb sicrhau’r 7fed safle yn gyfforddus gan orffen 10 pwynt uwchben Cei Connah (8fed). 

Dros y blynyddoedd mae momentwm wedi profi’n ffactor holl-bwysig wrth ystyried y gemau ail gyfle, a gan i’r Barri ennill pump o’u chwe gêm ddiwethaf mae’r hyder yn uchel ar Barc Jenner. 

Mae gan Y Barri brofiad helaeth o chwarae’n Ewrop, ond dyw’r Dreigiau heb wneud hynny ers pum mlynedd bellach, a dyw’r clwb erioed wedi ennill y gemau ail gyfle. 

A tydi record ddiweddar y Dreigiau ddim yn wych yn erbyn Caernarfon gan i’r Barri golli tair o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn y Cofis (ennill 1, cyfartal 1). 

Gorffennodd ymosodwr Caernarfon, Louis Lloyd, y tymor cyffredinol gyda 16 o goliau gan rannu’r Esgid Aur gyda James Crole (Pen-y-bont), ac mae gan Lloyd record dda yn erbyn Y Barri gan iddo sgorio pedair gôl yn y dair ornest ddiwethaf rhwng y timau. 

Chwaraeodd Caernarfon yn erbyn Y Barri yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle 2020/21 gyda’r Caneris yn ennill o 3-1 ar Barc Jenner diolch i ddwy gôl gan Mike Hayes cyn i Jake Bickerstaff selio’r fuddugoliaeth yn y funud olaf. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Caernarfon: ❌✅➖❌✅ 

Y Barri: ✅❌✅✅✅ 

 

Met Caerdydd (5ed) v Y Bala (6ed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Efallai bod yr hyder yn uchel yng Nghaernarfon a’r Barri, ond dyw’r momentwm yn bendant ddim yn ffafrio Met Caerdydd na’r Bala wrth arwain at y gemau ail gyfle.  

Ar ôl colli yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, mae Met Caerdydd wedi gorffen y tymor cyffredinol gyda rhediad siomedig o bum gêm heb ennill (cyfartal 3, colli 2). 

Ac roedd Y Bala wedi mynd ar rediad o naw gêm heb fuddugoliaeth cyn eu triphwynt annisgwyl yn erbyn Pen-y-bont y penwythnos diwethaf. 

Mae gan Y Bala atgofion melys o chwarae’n y gemau ail gyfle gan iddyn nhw ddod y tîm cyntaf o’r Chwech Isaf i ennill y gystadleuaeth ar ddiwedd tymor 2012/13, gan guro Cei Connah, Bangor a Phort Talbot i sicrhau eu lle’n Ewrop am y tro cyntaf erioed. 

Dyw Met Caerdydd m’ond wedi colli un o’u 10 gornest ddiwethaf yn erbyn Y Bala gan ennill dwy a chael dwy gêm gyfartal yn erbyn criw Colin Caton y tymor hwn. 

Chwaraeodd Met Caerdydd yn erbyn Y Bala yn rownd derfynol gemau ail gyfle 2019/20 gyda’r myfyrwyr yn ennill ar giciau o’r smotyn ar Faes Tegid gan gyrraedd Ewrop am yr unig dro yn eu hanes. 

Eliot Evans sgoriodd y gic o’r smotyn fuddugol y diwrnod hwnnw, ac hynny ar ôl sgorio’r unig gôl i’w dîm yn ystod y gêm, ac mae’r chwaraewr-hyfforddwr eisoes wedi sgorio ddwywaith yn erbyn Y Bala’r tymor hwn. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ͏➖❌➖➖❌ 

Y Bala: ❌➖❌➖❌✅ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?