S4C

Navigation

Brynhawn Sadwrn bydd tymor y Cymru Premier JD yn dod i ben wrth i Gaernarfon a’r Fflint gyfarfod yn rownd derfynol y gemau ail gyfle. 

Y wobr arferol am ennill y gemau ail gyfle yw cael lle yng nghystadlaethau Ewrop, ond mae Cymru wedi colli un o’u safleoedd Ewropeaidd oherwydd canlyniadau clybiau Cymru dros y tymhorau diwethaf. 

Er hynny, mae’n bur debygol y bydd Cymru yn adennill y pedwerydd safle yn Ewrop ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

 

Caernarfon (4ydd) v Y Fflint (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:00 

Ar ôl gemau agos yn y rownd gynderfynol y penwythnos diwethaf, Caernarfon a’r Fflint sydd wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle tymor 2021/22. 

Bu rhaid i’r Fflint amddiffyn yn ddewr cyn curo Pen-y-bont ar giciau o’r smotyn ddydd Sadwrn, ac roedd un gôl Mike Hayes yn ddigon wrth i’r Cofis ennill 1-0 gartref yn erbyn Met Caerdydd. 

Dyma’r trydydd tro i Gaernarfon gyrraedd y gemau ail gyfle ers eu dyrchafiad yn 2018, ond ar ôl colli yn erbyn Met Caerdydd yn y rownd gynderfynol yn 2019, yna colli yn erbyn Y Drenewydd yn y rownd derfynol yn 2021, bydd y Canerîs yn gobeithio mynd gam ymhellach eleni. 

Mae Caernarfon yn sicr wedi cael y gorau o’r Fflint y tymor yma gan ennill tair o’r bedair gêm rhwng y clybiau’n y gynghrair., ac wrth edrych ymhellach ar y record benben, dyw’r Fflint ond wedi ennill un o’u 13 gêm ddiwethaf yn erbyn y Cofis. 

Byddai ennill y gemau ail gyfle yn wobr teilwng i’r clybiau yma ar ddiwedd tymor llwyddiannus ble mae Caernarfon wedi gorffen yn hafal a’u safle uchaf erioed (4ydd), a’r Fflint yn eu safle uchaf ers 1996 (5ed). 

 

 

 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?