S4C

Navigation

Rownd derfynol Cwpan Cymru JD yn fyw ar S4C ddydd Sul am 4.15, gyda’r gic gyntaf am 4.45.

Mae’r Seintiau Newydd yn anelu am y dwbl ar ôl ennill y Bencampwriaeth, tra bydd y Bala yn gobeithio ailgreu rownd derfynol 2017, pan lwyddodd tîm Colin Caton i guro’r Seintiau ac ennill y gwpan.

 

Yr holl gyffro yng nghwmni Dylan Ebenezer, Owain Tudur Jones, Malcolm Allen a Sioned Dafydd. C/G 4.45.

 

 

Y Seintiau Newydd v Y Bala | Dydd Sul – 16:45 (Stadiwm Nantporth, Bangor)

Brynhawn Sul bydd Y Seintiau Newydd a’r Bala yn cyfarfod yn Stadiwm Nantporth yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD 2022/23.

Y Seintiau Newydd yw deiliaid presennol y cwpan ar ôl ennill y gystadleuaeth llynedd am yr wythfed tro yn eu hanes.

Ond mae gan Y Bala atgofion melys o guro’r Seintiau Newydd yn Stadiwm Nantporth yn rownd derfynol 2016/17 (Bala 2-1 YSN).

Dyw Craig Harrison, rheolwr pencampwyr y gynghrair heb anghofio hynny, ac mae’n benderfynol o dalu’r pwyth yn ôl eleni er mwyn sicrhau’r dwbl i griw Croesoswallt.

Mae’r Bala hefyd yn anelu am y dwbl ar ôl cipio Cwpan Nathaniel MG yn gynharach yn y tymor.

Ond dyw tîm Colin Caton heb fod yn tanio yn ddiweddar, ac mae Hogiau’r Llyn wedi gorffen y tymor gyda rhediad gwael o 12 gêm gynghrair heb fuddugoliaeth.

Dyw’r Seintiau Newydd heb golli dim un o’u 14 gêm flaenorol yn erbyn Y Bala (ennill 10, cyfartal 4) ac mae dros pedair blynedd wedi pasio ers y tro diwethaf i’r Bala guro cewri Croesoswallt.

Y Seintiau Newydd fydd y ffefrynnau amlwg felly ar ôl ennill y bencampwriaeth 22 pwynt yn glir o Gei Connah yn yr 2il safle.

Mae’r Bala wedi curo Penarlâg, Y Fflint, Pontypridd, Llansawel a Chei Connah i gyrraedd y rownd derfynol am yr eildro yn eu hanes, tra bod Y Seintiau Newydd wedi trechu Y Waun, Caernarfon, Y Drenewydd, Cwmbrân Celtaidd a Phen-y-bont.

Hon fydd 12fed ymddangosiad Y Seintiau Newydd yn y rownd derfynol, a dim ond tair gwaith mae nhw wedi colli yn y ffeinal – vs Y Barri (2000/01), Y Rhyl (2003/04), a’r Bala (2016/17).

Bydd Y Bala yn gobeithio achosi sioc er mwyn selio eu lle yn Ewrop, ond gyda’r Seintiau eisoes yn saff o’u lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr, byddai buddugoliaeth iddyn nhw yn golygu bod y tîm orffenodd yn drydydd yn y cynghrair, sef Pen-y-bont yn cipio’r tocyn olaf i Ewrop.

Bydd y cyfan yn fyw ar S4C am 16:15 yng nghwmni Dylan Ebenezer, Nic Parry, Sion Meredith, Sioned Dafydd a’r cyn-chwaraewyr rhyngwladol, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?