S4C

Navigation

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi y bydd Robert Page yn rheoli’r tîm cenedlaethol ym mhencampwriaeth Ewro 2020 dros yr haf, gydag Albert Stuivenberg yn parhau fel ei is-reolwr.

Mae Page, sydd wedi bod wrth y llyw ers mis Tachwedd 2020 yn dilyn absenoldeb Ryan Giggs, wedi ennill pedair o’u chwe gêm fel rheolwr gan golli dim ond un.

Bydd Cymru yn wynebu Ffrainc ac Albania mewn gemau cyfeillgar cyn y bencampwriaeth, gyda Chymru yn wynebu’r Swistir, Twrci a’r Eidal yn grŵp A Ewro 2020.

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?