S4C

Navigation

Bydd Ryan Giggs ddim yn rheoli Cymru ar gyfer tair gêm nesaf y tîm cenedlaethol ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac achosi niwed corfforol.

Robert Page, is-reolwr Ryan Giggs a chyn-reolwr y tîm dan 21, sydd wedi ei benodi i arwain y tîm cenedlaethol ar gyfer y tair gêm nesaf, sef gêm gyfeillgar yn erbyn Unol Daleithiau (12/11), a’r ddwy gêm olaf yn ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd, sef Gweriniaeth Iwerddon (15/11) a’r Ffindir (18/11).

Bydd y garfan ar gyfer y gemau yn cael ei chyhoeddi ddydd Iau.

Datganiad gan y Gymdeithas Bêl-droed

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Ryan Giggs wedi cytuno na fydd rheolwr y tîm cenedlaethol yn chwarae rhan yn y gemau ym mis Tachwedd.

Ein blaenoriaieth nawr yw paratoi’r tîm ar gyfer y gemau rhyngwladol.

Bydd Robert Page, gyda chefnogaeth Ryan, yn arwain y garfan ar gyfer y tair gêm nesaf yn erbyn yr UDA, Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir, wed’i gefnogi gan Albert Stuivenberg.

Bydd carfan Cymru ar gyfer y gemau hyn yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 5ed o Dachwedd. 

Ni fydd CBDC yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd.”  

 

Malcolm Allen: ‘Fe wneith o ddim ein gadael ni lawr’

Malcolm Allen, cyn-ymosodwr Cymru, sy’n trafod penodiad dros dro Robert Page ar gyfer y gemau nesaf.

 

Sion Richards

Author Sion Richards

More posts by Sion Richards
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?