Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn hynod falch i gyhoeddi cytundeb pedair-blynedd i reolwr tîm Cymru Rob Page, wrth i Gymru edrych ymlaen at Gwpan y Byd FIFA 2022 a’r ymgyrchoedd i gyrraedd pencampwriaeth UEFA EURO 2024 a Chwpan y Byd FIFA 2026.
Yn ystod ei amser fel rheolwr dros-dro, fe wnaeth Page sicrhau lle Cymru yn grŵp A Gynghrair y Cenhedloedd UEFA, cyrraedd rownd 16 olaf UEFA EURO 2020 a chreu hanes wrth i Gymru ennill lle yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA am y tro gyntaf yn 64 mlynedd. Cyn cymryd yr awenau gyda’r tîm cenedlaethol, roedd Page yn rheolwr y tîm D21, lle’r oedd yn gyfrifol am ddatblygu rhai o sêr Cymru gan gynnwys Dan James, Joe Rodon, Joe Morrell a Chris Mepham.
Dywedodd Rob Page “Mae’n anrhydedd enfawr i reoli fy ngwlad, y fraint fwyaf o fy mywyd. Rwy’n edrych ymlaen at yr her sydd i’w ddod dros y pedair blynedd nesaf, gan ddechrau efo ein Cwpan y Byd gyntaf ers 64 mlynedd. Rwy’n gobeithio gallwn ni rhoi gwen ar wynebau ein cefnogwyr ym mis Tachwedd ac adeiladu ar y llwyddiant trwy gyrraedd mwy o bencampwriaethau EURO a Chwpan y Byd yn y dyfodol.”
Bydd Page nawr yn edrych i baratoi ei garfan ar gyfer y Cwpan y Byd ym mis Tachwedd, yn ogystal â’r gemau Cynghrair y Cenhedloedd UEFA, lle fydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg yn Brussels (Dydd Iau 22 o Fedi) a Gwlad Pwyl yn Stadiwm Dinas Caerdydd (Dydd Sul 25 o Fedi), gyda’r gemau i gyd yn fyw ar S4C.