Mae’n benwythnos tyngedfennol yn nhymor Uwch Gynghrair Cymru gan bydd y ddau ar y copa, Y Seintiau Newydd a Chei Connah yn mynd benben yn Neuadd y Parc gyda’r clybiau yn hafal ar bwyntiau yn y ras am y bencampwriaeth.
Y Seintiau Newydd v Cei Connah | Dydd Sadwrn – 17:15
Mae hi’n gaddo i fod yn dipyn o achlysur yng Nghroesoswallt ddydd Sadwrn pan bydd Anthony Limbrick yn mynd benben gydag Andy Morrison am y tro cyntaf.
Mae’r Seintiau ar rediad arbennig o saith buddugoliaeth yn olynol, ac heb ildio gôl yn eu pedair gêm ers penodi Anthony Limbrick yn brif hyfforddwr, tra bod Cei Connah wedi colli dim ond un o’u 18 gêm ddiwethaf.
Gwahaniaeth goliau’n unig sydd yn gwahanu’r ddau ar y copa, ond er hynny bydd gan Y Seintiau Newydd fantais seicolegol gartref yn Neuadd y Parc.
Ers i Andy Morrison gael ei benodi’n rheolwr y Nomadiaid yn Nhachwedd 2015 mae’r timau wedi cwrdd 10 gwaith yn Neuadd y Parc – un gem ddi-sgôr yn Ionawr 2016 ac mae’r Seintiau wedi ennill y naw gêm wedi hynny.
Dyw Cei Connah heb guro’r Seintiau oddi cartref yn Uwch Gynghrair Cymru ers dros 25 mlynedd (Hydref 1995), a byddai Andy Morrison wrth ei fodd pe bae’n gallu dod a’r rhediad hwnnw i ben ddydd Sadwrn.
Canlyniadau tymor yma: Y Seintiau Newydd 1-0 Cei Connah, Cei Connah 2-0 Y Seintiau Newydd
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Cei Connah: ✅❌✅✅✅