S4C

Navigation

Ar ôl cystadlu yng Nghwpan Her yr Alban fis diwethaf mae gan Y Seintiau Newydd a Chaernarfon gêm wrth gefn yn y gynghrair, a bydd y clybiau’n chwarae’r gêm honno yn erbyn ei gilydd nos Fawrth. 

 

 Nos Fawrth, 25 Hydref  

 Y Seintiau Newydd (1af) v Caernarfon (5ed) | Nos Fawrth – 19:45 

 

Mae’r Seintiau Newydd bedwar pwynt yn glir ar frig y tabl, ac er ei bod hi ond yn fis Hydref mae’n deg dweud ei bod hi’n anodd gweld unrhyw un yn dal y pencampwyr cyn diwedd y tymor. 

 

Ers eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Y Drenewydd ar y penwythnos agoriadol mae’r Seintiau wedi ennill naw gêm gynghrair yn olynol, ac mae tîm Craig Harrison wedi codi gêr yn ystod y mis diwethaf gan sgorio 24 o goliau mewn pum gêm. 

 

Mae Caernarfon wedi cael dechrau digon boddhaol i’r tymor hefyd, ac ar ôl curo Aberystwyth dros y penwythnos mae tîm Huw Griffiths yn parhau yn y 5ed safle. 

 

Er hynny, mae’r Cofis wedi colli pob un o’u tair gêm gynghrair oddi cartref y tymor yma ac wedi dibynnu ar berfformiadau cadarn ar yr Oval i gasglu eu pwyntiau eleni (ennill 6 o’u 7 gêm gartref). 

 

Dyw’r Seintiau heb golli dim un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (ennill 7, cyfartal 1) a bydd prif sgoriwr y gynghrair Declan McManus (10 gôl) yn anelu i ychwanegu at ei gyfanswm ar ôl sgorio mewn wyth gêm gynghrair yn olynol. 

 

Bydd y clybiau’n cyfarfod yn Neuadd y Parc unwaith eto fis nesaf yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD ar 11 Tachwedd. 

 

Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Caernarfon: ✅✅❌❌✅
 

Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Meilyr Williams

Author Meilyr Williams

More posts by Meilyr Williams
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?