Nos Fercher, 9 Hydref
Y Seintiau Newydd (6ed) v Caernarfon (4ydd) | Nos Fercher – 19:45
Mae’r pencampwyr, Y Seintiau Newydd mewn sefyllfa anghyfarwydd i lawr yn y 6ed safle ar ôl colli dwy o’u saith gêm gynghrair hyd yma, ond gyda pedair gêm wrth gefn bydd criw Craig Harrison yn hyderus o allu cau’r bwlch ar y ceffylau blaen.
Pen-y-bont sy’n arwain y pac, ond pe bae’r Seintiau’n ennill eu pedair gêm wrth gefn yna byddai cewri Croesoswallt yn codi un pwynt uwchben bechgyn Bryntirion.
Byddai buddugoliaeth nos Fercher yn ddechrau da i’r Seintiau, ac yn eu codi uwchben Caernarfon, sydd wedi bod ar rediad rhagorol yn ddiweddar gan ddringo o’r gwaelodion i’r hanner uchaf.
Dyw’r Cofis heb golli dim un o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf gan ennill 13 pwynt allan o’r 15 posib (ennill 4, cyfartal 1).
Dyma gyfnod gorau’r Caneris yn y Cymru Premier JD ers Mawrth 2021 pan aeth y clwb ar rediad o wyth gêm gynghrair heb golli dan arweiniad Huw Griffiths.
Ond dyw Caernarfon heb ennill dim un o’u 15 gêm ddiwethaf yn erbyn criw Croesoswallt gyda’r Seintiau’n fuddugol yn yr 11 ornest flaenorol rhwng y timau.
Sgoriodd Y Seintiau Newydd 20 gôl mewn pedair gêm yn erbyn Caernarfon y tymor diwethaf, yn cynnwys dwy grasfa yn ail ran y tymor (Cfon 1-8 YSN, YSN 7-1 Cfon).
Ond er i 10 chwaraewr gwahanol rwydo i’r Seintiau yn erbyn y Cofis llynedd, doedd dim un gystal â’r gôl gampus sgoriodd Sion Bradley i Gaernarfon ar yr Oval ym mis Chwefror.
Mae Bradley bellach yn un o sêr y Seintiau, ac yn gydradd brif sgoriwr y gynghrair ar ôl taro chwe gôl mewn saith ymddangosiad.
Bydd hi’n noson arwyddocal i’r asgellwr yn erbyn ei gyn-glwb wrth i Gaernarfon geisio ennill yn Neuadd y Parc am y tro cyntaf ers Tachwedd 2018.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅❌❌✅
Caernarfon: ✅➖✅✅✅
Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.