S4C

Navigation

Nos Fawrth, 3 Medi 

 

Y Seintiau Newydd (10fed) v Aberystwyth (9fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae’r Seintiau Newydd wedi creu hanes eleni drwy gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf erioed. 

Bydd y clwb o Groesoswallt yn herio Fiorentina, Djurgarden, Astana, Shamrock Rovers, Panathinaikos a Celje yn Nghyngres UEFA y tymor hwn. 

Ond tra bo’r Seintiau wedi bod yn brysur gyda’u gemau rhagbrofol yn Ewrop, mae eu gemau cynghrair wedi cael eu gohirio, ac felly mae’r pencampwyr mewn sefyllfa anghyfarwydd i lawr yn y 10fed safle gyda pedair gêm wrth gefn. 

Wedi’r llwyddiant diweddar dyw hi’n ddim syndod bod clybiau eraill wedi llygadu chwaraewyr gorau’r Seintiau, a’r wythnos hon fe gyhoeddwyd bod prif sgoriwr y tymor diwethaf, Brad Young wedi arwyddo i Al-Orobah yn Saudi Arabia. 

Er chwarae tair gêm yn fwy na’r Seintiau, dim ond un pwynt yn ychwanegol sydd gan Aberystwyth gan i’r Gwyrdd a’r Duon ennill dim ond un o’u pedair gêm gynghrair hyd yma. 

Mae’r Seintiau wedi ennill 27 gêm gynghrair yn olynol, ac heb golli’n y gynghrair ers Chwefror 2023 (Met 3-2 YSN). 

Fe lwyddodd Aberystwyth i guro’r Seintiau ar Goedlan y Parc ‘nôl ym mis Tachwedd 2021 (Aber 1-0 YSN), ond dyw’r clwb o Geredigion heb ennill oddi cartref yn erbyn y Seintiau ers 30 o flynyddoedd (Tachwedd 1993). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd:  

Aberystwyth: ͏❌➖✅❌ 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?