S4C

Navigation

Dydd Sadwrn nesaf mi fydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy, ond cyn y gemau terfynol rheiny mae yna bedair gêm wrth gefn i’w chwarae y penwythnos hwn. 

Mae’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont a Hwlffordd wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, ond mae pum clwb arall yn dal i gystadlu am y tri safle olaf ymysg yr elît. 

Pwynt yn unig sy’n gwahanu’r Bala a Chaernarfon yng nghanol y tabl ac felly mi fydd yr ornest rhwng y ddau dîm rheiny yn un allweddol nos Wener. 

Nos Wener, 3 Ionawr 

 

Y Bala (5ed) v Caernarfon (7fed) | Nos Wener – 19:45 

Wedi 45 munud di-sgôr bu rhaid gohirio’r gêm rhwng Y Bala a Chaernarfon yn ystod yr egwyl ar nos Calan gan i’r dyfarnwr benderfynu bod yr amodau yn rhy beryglus oherwydd y tywydd rheibus. 

Felly, bydd y timau yn rhoi cynnig arall arni dridiau yn ddiweddarach mewn gêm dyngedfennol yn y frwydr am y Chwech Uchaf. 

Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf ym mhob un o’r 10 tymor diwethaf, ac mae criw Colin Caton mewn safle addawol i wneud hynny eto eleni yn dilyn rhediad o naw gêm gynghrair heb golli (cyfartal 7, ennill 2). 

Gormod o gemau cyfartal yw prif broblem Y Bala eleni gan bod 11 o’u 20 gêm gynghrair wedi gorffen yn gyfartal, yn cynnwys gemau oddi cartref yn Llansawel, Y Fflint, Y Drenewydd ac Aberystwyth, ble byddai’r Bala wedi disgwyl gadael gyda’r triphwynt. 

Mae Caernarfon wedi cyrraedd yr hanner uchaf ym mhump o’u chwe tymor ers esgyn i’r uwch gynghrair, ond ar ôl colli eu dwy gêm ddiwetahf mae tîm Richard Davies ym mhell o fod yn ddiogel o’u lle ymysg yr elît eleni. 

Gorffennodd hi’n ddi-sgôr yn y gêm gyfatebol rhwng y clybiau yma ar yr Oval ym mis Awst, sef y bumed gêm gyfartal yn olynol rhwng y ddau dîm. 

Dyw’r Bala heb golli yn eu 12 gêm ddiwethaf yn erbyn Caernarfon (ennill 6, cyfartal 6), ers y golled o 3-0 ar yr Oval ym mis Mai 2021 ble sgoriodd yr amddiffynnwr Max Cleworth ddwy gôl i’r Cofis yn ystod ei gyfnod ar fenthyg o Wrecsam. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Bala: ➖➖✅✅➖ 

Caernarfon: ✅➖✅❌❌
 

 Dydd Sadwrn, 4 Ionawr 

 

Hwlffordd (3ydd) v Llansawel (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Mae Hwlffordd wedi hawlio eu lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf yn ystod cyfnod y 12 Disglair gan warantu eu bod am orffen yn eu safle uchaf ers 20 mlynedd. 

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 9 gôl mewn 20 gêm), ac fe gadwodd Zac Jones ei 12fed llechen lân yn y fuddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Aberystwyth ar ddydd Calan. 

Fe sicrhaodd Llansawel bwynt gwerthfawr yn erbyn Y Barri ar nos Calan sy’n golygu bod y Cochion m’ond wedi colli un o’u pedair gêm ddiwethaf (vs YSN), a byddai buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn eu codi o’r ddau safle isaf. 

Hwlffordd oedd yn fuddugol yn y gêm gyfatebol ym mis Hydref, yn ennill o 2-1 ar yr Hen Heol diolch i goliau gan Owain Jones a Lee Jenkins. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Hwlffordd: ❌➖❌✅✅ 

Llansawel: ❌✅❌✅➖ 

 

Pen-y-bont (2il) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar ôl treulio 18 wythnos ar frig y tabl, mae Pen-y-bont wedi llithro i’r ail safle yn dilyn gêm gyfartal o 2-2 yn erbyn Met Caerdydd ar nos Calan. 

Roedd Pen-y-bont ar y blaen o 2-0 yn erbyn y myfyrwyr nos Fawrth, ond am y trydydd tro’r tymor hwn fe fethodd tîm Rhys Griffiths â churo Met Caerdydd wrth i’r ymwelwyr frwydro ‘nôl i gipio pwynt. 

Er hynny, dim ond un pwynt sy’n gwahanu Pen-y-bont a’r Seintiau Newydd gyda 12 gêm yn weddill, felly mae’n gaddo i fod yn ras gyffrous am y bencampwriaeth yn ail ran y tymor. 

O ran Cei Connah, fe gollon nhw o 2-1 yn erbyn Y Seintiau Newydd ar nos Calan, ond byddai buddugoliaeth i’r Nomadiaid yn erbyn Pen-y-bont yn eu codi i’r hanner uchaf am y tro cyntaf ers dechrau mis Medi. 

Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe tymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond mae’r Nomadiaid mewn perygl gwirioneddol o fethu a chyrraedd y Chwech Uchaf eleni. 

Gorffennodd Cei Connah yn 9fed yn nhymor 2021/22 ar ôl derbyn 18 pwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys, ond oni bai am hynny mae’r Nomadiaid wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ar bob achlysur ers gorffen yn 7fed yn 2014/15. 

Gabriel Kircough sgoriodd unig gôl y gêm i Ben-y-bont yn yr ornest gyfatebol ar Gae y Castell ym mis Medi, ond cyn hynny doedd Pen-y-bont heb ennill yn eu saith gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Pen-y-bont: ͏✅❌✅✅➖ 

Cei Connah: ͏❌✅➖✅❌ 

 

Y Seintiau Newydd (1af) v Y Drenewydd (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

20 gêm yn hwyrach na’r disgwyl efallai, ond o’r diwedd mae’r Seintiau Newydd wedi dringo i gopa’r gynghrair am y tro cyntaf y tymor hwn ar ôl curo Cei Connah o 2-1 ar nos Calan. 

Mae’r Seintiau wedi sgorio 18 gôl yn fwy nac unrhyw glwb arall y tymor hwn, ond ildio goliau yw’r broblem gan nad yw’r pencampwyr wedi cadw llechen lân yn eu 18 gêm ddiwethaf, ers curo Astana o 2-0 yng Nghyngres UEFA ym mis Hydref. 

Mae Callum McKenzie yn dal i aros am ei bwynt cyntaf ar ôl pum colled yn olynol ers cael ei benodi fel rheolwr newydd Y Drenewydd. 

Fe gafodd Y Drenewydd ddechrau cadarn i’r tymor ac roedd y Robiniaid yn 3ydd wedi eu saith gêm agoriadol. 

Ond dyw criw’r canolbarth m’ond wedi ennill unwaith yn eu 14 gêm ers mis Medi, a bellach dim ond un pwynt sy’n gwahanu’r Drenewydd a safleoedd y cwymp. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill eu naw gêm ddiwethaf yn erbyn Y Drenewydd, yn cynnwys buddugoliaeth swmpus o 6-1 oddi cartref ar Barc Latham ym mis Medi. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅✅ 

Y Drenewydd: ͏❌❌❌❌❌ 

 

Gemau olaf cyn yr hollt – Dydd Sadwrn, 11 Ionawr am 12:45: 

 

Aberystwyth v Llansawel 

Caernarfon v Y Fflint 

Cei Connah v Y Bala 

Met Caerdydd v Y Seintiau Newydd 

Y Barri v Hwlffordd 

Y Drenewydd v Pen-y-bont 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?