S4C

Navigation

Bydd rhan gynta’r tymor yn dod i ben nos Fawrth wrth i’r ras am y Chwech Uchaf gyrraedd ei huchafbwynt. 

Mae’r Seintiau Newydd, Pen-y-bont a Hwlffordd eisoes wedi sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, ond mae’r tri safle olaf yn dal yn y fantol gyda Met Caerdydd, Caernarfon, Y Bala, Y Barri a Chei Connah yn gobeithio hawlio eu lle ymysg yr elît. 

Bydd y gynghrair yn cael ei hollti’n ddwy ar ddiwedd y noson ac am weddill y tymor bydd y Chwech Uchaf yn cystadlu am y bencampwriaeth, ac yn paratoi am y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop. 

Bydd clybiau’r Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair, ac yn anelu am y 7fed safle er mwyn cipio’r tocyn olaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor. 

 

Nos Fawrth, 14 Ionawr 

Caernarfon (5ed) v Y Fflint (10fed) | Nos Fawrth – 19:45 

Roedd hi’n fuddugoliaeth felys i Gaernarfon yn erbyn Y Bala ddydd Sadwrn gyda’r gêm yn cael ei chynnal yn Llandudno gan i Faes Tegid fethu archwiliad cae am y pedwerydd tro oherwydd y tywydd. 

Mae’r canlyniad hwnnw yn golygu y byddai gêm gyfartal nos Fawrth yn debygol o fod yn ddigon i gadarnhau lle’r Cofis yn y Chwech Uchaf, ond byddai buddugoliaeth yn bendant yn sicrhau eu lle. 

Mae Caernarfon wedi cyrraedd yr hanner uchaf ym mhump o’u chwe tymor ers esgyn i’r uwch gynghrair, ac mae’r Caneris mewn safle cryf i gwblhau’r gamp eto eleni. 

Dyw’r Cofis heb fod ar eu gorau ar yr Oval, yn colli pedair o’u pum gêm gartref ddiwethaf, ond dyw’r Fflint heb ddisgleirio oddi cartref chwaith, gan golli eu pum gêm ddiwethaf oddi cartref. 

Mae’r Fflint mewn brwydr i osgoi’r cwymp gyda tri o glybiau eraill, ond dyw’r Sidanwyr heb golli yn eu chwe gêm yn erbyn y clybiau rheiny yn rhan gynta’r tymor (curo Aberystwyth a’r Drenewydd ddwywaith a cipio 4pt yn erbyn Llansawel). 

Dyw Caernarfon m’ond wedi colli un o’u naw gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint (ennill 7, cyfartal 1), gan ennill o 2-1 yn y gêm gyfatebol ar Gae y Castell ym mis Medi. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Fflint: ͏✅✅❌❌✅ 

Caernarfon: ➖✅❌❌✅
 

Cei Connah (8fed) v Y Bala (6ed) | Nos Fawrth – 19:45 (Yn fyw arlein) 

Roedd hi’n brynhawn rhwystredig i’r Bala ddydd Sadwrn a gafodd eu gorfodi i chwarae eu gêm gartref yn Llandudno, a cholli’r frwydr dyngedfennol honno yn erbyn Caernarfon. 

Roedd Y Bala wedi mynd ar rediad o naw gêm gynghrair heb golli cyn y golled o 2-0 ar Barc Maesdu ddydd Sadwrn, ac felly mae Hogiau’r Llyn yn hafal ar bwyntiau gyda’r Barri (7fed) cyn y gêm olaf cyn yr hollt. 

Byddai buddugoliaeth i Gei Connah yn eu codi uwchben Y Bala ar wahaniaeth goliau, ond byddai’n rhaid i’r Barri golli hefyd os yw’r Nomadiaid am dorri mewn i’r Chwech Uchaf ar yr eiliad olaf. 

Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe tymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond mae’r Nomadiaid mewn perygl gwirioneddol o fethu a chyrraedd y Chwech Uchaf eleni. 

Gorffennodd Cei Connah yn 9fed yn nhymor 2021/22 ar ôl derbyn 18 pwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys, ond oni bai am hynny mae’r Nomadiaid wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ar bob achlysur ers gorffen yn 7fed yn 2014/15. 

Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf am 10 tymor yn olynol, ac fel Cei Connah mae’r clwb wedi cystadlu’n gyson yn Ewrop dros y degawd diwethaf. 

Mae’r gemau diweddar rhwng y ddau glwb yma wedi bod yn rhai tynn tu hwnt gyda nifer fach iawn o goliau’n cael eu sgorio. 

Mae’r ddwy ornest diwethaf rhwng y timau wedi gorffen yn ddi-sgôr, ac wrth edrych ‘nôl at ddechrau’r tymor diwethaf mae cyfartaledd isel o 0.8 gôl wedi cael ei sgorio yn y chwe gêm flaenorol rhwng y ddau glwb (Bala 0-0 Cei, Cei 0-0 Bala, Cei 1-0 Bala, Bala 1-0 Cei, Cei 1-1 Bala, Bala 1-0 Cei). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Cei Connah: ͏✅➖✅❌❌ 

Y Bala: ➖✅✅➖❌ 

 

 

Met Caerdydd (4ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae Met Caerdydd yn anelu i sicrhau lle yn yr hanner uchaf am y trydydd tymor o’r bron, a byddai pwynt i’r myfyrwyr nos Fawrth yn ddigon i gyflawni’r gamp. 

Mae tîm Ryan Jenkins driphwynt yn glir o’r Bala (6ed) a’r Barri (7fed), a byddai angen i sawl canlyniad fynd yn eu herbyn os am lithro i’r hanner isaf. 

Y Seintiau Newydd sydd ar frig y tabl ar ôl crafu buddugoliaeth hwyr yn erbyn Y Drenewydd yn eu gêm ddiwethaf. 

Mae’r Seintiau wedi sgorio 19 gôl yn fwy nac unrhyw glwb arall y tymor hwn, ond ildio goliau yw’r broblem gan nad yw’r pencampwyr wedi cadw llechen lân yn eu 19 gêm ddiwethaf, ers curo Astana o 2-0 yng Nghyngres UEFA ym mis Hydref. 

Bydd criw Craig Harrison yn llawn hyder cyn mentro i’r brifddinas gan i’r Seintiau ennill eu wyth gêm ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr, yn cynnwys crasfa o 8-0 ym mis Ionawr 2024. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Met Caerdydd: ͏ ✅❌✅❌➖ 

Y Seintiau Newydd: ❌✅✅✅✅ 

 

Y Barri (7fed) v Hwlffordd (3ydd) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae’r Barri yn anelu i hawlio lle’n y Chwech Uchaf am y tro cyntaf ers tymor 2020/21, ond ar ôl methu ag ennill dim un o’u pedair gêm ddiwethaf mae’r Dreigiau mewn perygl o fethu’r nod. 

Mae tîm Steve Jenkins yn hafal ar bwyntiau gyda’r Bala (6ed), ond mae gwahaniaeth goliau’r Barri tipyn yn îs na’r clybiau eraill sy’n cystadlu i gyrraedd y Chwech Uchaf. 

Mae Hwlffordd wedi ennill tair gêm yn olynol gan hawlio eu lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf yn ystod cyfnod y 12 Disglair a gwarantu eu bod am orffen yn eu safle uchaf ers 20 mlynedd. 

Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 10 gôl mewn 21 gêm), ac er bod goliau wedi bod yn brin ar y cyfan, fe sgoriodd yr Adar Gleision bum gôl yn erbyn Llansawel yn eu gêm ddiwethaf. 

1-1 oedd y sgôr yn y gêm gyfatebol rhwng y clybiau ym mis Medi, ond yn y dair blynedd diwethaf dyw’r Barri heb ennill dim un o’u naw gornest yn erbyn Hwlffordd (colli 5, cyfartal 4). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Barri: ✅❌❌❌➖ 

Hwlffordd: ➖❌✅✅✅ 

  

Y Drenewydd (11eg) v Pen-y-bont (2il) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae’r Drenewydd ar rediad trychinebus o 10 gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 1, colli 9) ac mae’r Robiniaid bellach mewn brwydr i osgoi’r cwymp. 

Mae Callum McKenzie yn dal i aros am ei bwynt cyntaf ar ôl chwe colled yn olynol ers cael ei benodi fel rheolwr newydd Y Drenewydd. 

Bydd Pen-y-bont yn benderfynol o barhau i gystadlu am y bencampwriaeth gyda’r Seintiau Newydd sydd ond un pwynt uwch eu pennau. 

Dyw tîm Rhys Griffiths m’ond wedi colli un o’u 10 gêm gynghrair oddi cartref y tymor hwn, ac honno yn y funud olaf yng nghartre’r Seintiau (YSN 3-2 Pen). 

Gorffennodd hi’n ddi-sgôr yn y gêm gyfatebol rhwng y ddau dîm ar ddechrau’r tymor, ond fe enillodd Pen-y-bont o 5-0 ar eu hymweliad diwethaf â Pharc Latham yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ym mis Mai. 

Dyw’r Drenewydd heb ennill gartref ers mis Medi, ac mae Pen-y-bont ar rediad o wyth gêm heb golli yn erbyn cochion y canolbarth (ennill 6, cyfartal 2). 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Drenewydd: ͏❌❌❌❌❌ 

Pen-y-bont: ͏❌✅✅➖✅ 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?