Mae 12 clwb yr uwch gynghrair wedi chwarae’n erbyn ei gilydd ddwywaith ac felly mae rhan gynta’r tymor wedi dod i ben a’r gynghrair wedi ei hollti’n ddwy.
Am weddill y tymor bydd clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am y bencampwriaeth, ac yn paratoi am y gemau ail gyfle i gyrraedd Ewrop.
Bydd clybiau’r Chwech Isaf yn brwydro i aros yn y gynghrair, ac yn anelu am y 7fed safle er mwyn cipio’r tocyn olaf yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
Mae’n gyffrous iawn tua’r copa gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r pencampwyr presennol, Y Seintiau Newydd a Pen-y-bont, clwb sydd erioed wedi gorffen yn uwch na’r 3ydd safle.
Bydd hi’n fwy o her na’r arfer i gyrraedd Ewrop eleni gan mae dim ond tri safle sydd ar gael yn hytrach na’r pedwar arferol, ac felly bydd y clwb sy’n gorffen yn 2il yn y tabl yn cystadlu’n y gemau ail gyfle yn hytrach na chamu’n syth i Ewrop.
Ac ar waelod y tabl mae’r unig ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol ers ffurfio’r gynghrair, gydag Aberystwyth a’r Drenewydd mewn perygl o syrthio o’r haen uchaf am y tro cyntaf erioed.
CHWECH UCHAF
Caernarfon (4ydd) v Y Seintiau Newydd (1af) | Nos Wener – 19:45 (WEDI EI GOHIRIO)
Mae Caernarfon wedi cyrraedd yr hanner uchaf am y chweched tro yn eu saith tymor ers esgyn i’r uwch gynghrair, a bydd y Caneris yn gobeithio adeiladu momentwm cyn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
Llwyddodd Caernarfon i ennill y gemau ail gyfle llynedd a chyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, a bydd y Cofis yn ysu i ail-adrodd y gamp eto eleni.
Ond mi fydd hi’n her i Gaernarfon sydd wedi colli eu ymosodwr, Zack Clarke sydd wedi arwyddo i’r Seintiau Newydd ar ôl sgorio wyth a chreu tair gôl i’r Caneris yn rhan gynta’r tymor.
Bydd y Cofis ddim yn dal dîg gyda chewri Croesoswallt gan eu bod wedi cael benthyg tri o’u chwaraewyr am weddill y tymor, sef Blaine Hudson, Josh Lock a Jake Canavan, ond ni fydd y tri ar gael i chwarae yn erbyn y Seintiau nos Wener.
Y Seintiau Newydd sydd ar frig y tabl gyda 10 gêm ar ôl i’w chwarae ond mae criw Craig Harrison wedi colli pum gêm gynghrair yn barod y tymor hwn, sef y nifer fwyaf iddyn nhw ei golli ers tymor 2019/20 pan orffennon nhw’n 2il y tu ôl i Gei Connah.
Caernarfon oedd un o’r clybiau i’w curo yn rhan gynta’r tymor, yn ennill o 2-1 yn Neuadd y Parc ym mis Hydref, ond fe dalodd y pencampwyr y pwyth yn ôl ar ddydd San Steffan gan ennill o 5-2 ar yr Oval gyda Jack Bodenham a Ben Clark yn taro ddwywaith yr un i’r Seintiau.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅❌❌✅✅
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Met Caerdydd (6ed) v Pen-y-bont (2il) | Nos Wener – 19:45
Mae’n ymddangos mae ras dau geffyl yw hi am y bencampwriaeth eleni gan fod yna 10 pwynt yn gwahanu Pen-y-bont (2il) a Hwlffordd (3ydd) ar ddechrau ail ran y tymor.
Ond fedr Pen-y-bont ddim bodloni ar orffen yn 2il gan na fydd hynny yn gwarantu safle’n Ewrop, felly bydd rhaid i dîm Rhys Griffiths fynd amdani a cheisio cipio’r bencampwriaeth o afael Y Seintiau Newydd.
Mae Met Caerdydd wedi sicrhau lle yn yr hanner uchaf am y trydydd tymor o’r bron, ond mae’r myfyrwyr 19 pwynt o dan y ceffylau blaen, ac felly paratoi am y gemau ail gyfle fydd y nod iddyn nhw.
Mae Pen-y-bont wedi ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf gyda’r gêm arall yn gorffen yn gyfartal yn erbyn Met Caerdydd.
Mae’r clybiau yma wedi cyfarfod deirgwaith yn barod y tymor hwn a Met Caerdydd sydd wedi cael y gorau o bethau, yn ennill o 1-0 yng Nghwpan Cymru a chael dwy gêm gyfartal yn y gynghrair.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ͏ ❌✅❌➖❌
Pen-y-bont: ͏✅✅➖✅✅
Hwlffordd (3ydd) v Y Bala (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl dechrau arbennig i’r tymor mae Hwlffordd wedi hawlio eu lle yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf yn ystod cyfnod y 12 Disglair gan sicrhau eu bod am orffen yn eu safle uchaf ers 20 mlynedd.
Hwlffordd sydd â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair (ildio 11 gôl mewn 22 gêm), ac mae’r golwr Zac Jones wedi llwyddo i gadw 12 llechen lân yn barod y tymor hwn.
Mae’r Adar Gleision yn dechrau ail ran y tymor chwe phwynt uwchben Caernarfon (4ydd) a bydd Tony Pennock yn awyddus i aros yn y tri uchaf gan y byddai hynny yn golygu eu bod yn mynd yn syth i rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, tra bydd y timau o’r 4ydd i’r 7fed safle yn cystadlu mewn rownd ychwanegol.
Mae’r Bala wedi sicrhau lle’n y Chwech Uchaf am 11 tymor yn olynol, ond doedd hi’n bendant ddim yn gyfforddus i garfan Gwynedd eleni wedi i sawl gohiriad amharu ar eu gemau olaf cyn yr hollt.
Bydd angen i Colin Caton a’r criw symud ymlaen rwan a chanolbwyntio ar weddill y tymor a cheisio troi gemau cyfartal yn fuddugoliaethau gan i hanner gemau’r Bala orffen yn gyfartal yn rhan gynta’r tymor.
Daeth un o’r gemau cyfartal rheiny mewn gêm ddi-sgôr oddi cartref yn erbyn Hwlffordd ym mis Tachwedd, a’r Adar Gleision oedd yn dathlu yn y gêm flaenorol ar Faes Tegid, yn ennill o 2-0 ‘nôl ym mis Hydref.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ❌✅✅✅➖
Y Bala: ✅✅➖❌✅
CHWECH ISAF
Y Drenewydd (11eg) v Llansawel (9fed) | Nos Wener – 19:45
Ar ôl treulio tri tymor yn y Chwech Uchaf mae’r Drenewydd wedi methu a chyrraedd y nod eleni, ac yn waeth na hynny mae’r Robiniaid yn dechrau ail ran y tymor yn safleoedd y cwymp.
Y Drenewydd ac Aberystwyth yw’r unig ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 ac mae’n bosib y byddwn ni’n ffarwelio gyda’r ddau dîm os na fydd eu canlyniadau’n gwella’n sylweddol.
Mae’r Robiniaid ar rediad trychinebus o 11 gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 1, colli 10) gan sgorio dim ond pum gôl yn eu 10 gêm ddiwethaf.
Mae Callum McKenzie yn dal i aros am ei bwynt cyntaf ar ôl saith colled yn olynol ers cael ei benodi fel rheolwr newydd Y Drenewydd.
Bydd Llansawel yn dechrau ail ran y tymor ddau bwynt uwchben Y Drenewydd a safleoedd y cwymp, ac mae’r canlyniadau a’r hyder wedi codi’n raddol ar yr Hen Heol wrth i’r tymor fynd yn ei flaen.
Doedd dim i wahanu’r timau yn rhan gynta’r tymor gyda’r Drenewydd yn ennill 1-0 gartref, a Llansawel yn ennill o 2-1 yn y gêm gyfatebol, ond mae’r momentwm yn sicr gyda Llansawel wedi iddyn nhw ennill o 6-1 yn Aberystwyth yn eu gêm olaf cyn yr hollt.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ͏❌❌❌❌❌
Llansawel: ❌✅➖❌✅
Aberystwyth (12fed) v Y Barri (7fed) | Nos Wener – 20:00
Mae Aberystwyth, fel Y Drenewydd, wedi bod yn aelodau di-dor o Uwch Gynghrair Cymru ers 1992 ac mae’r ddau glwb mewn perygl o syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf erioed.
Aberystwyth oedd ar waelod y domen ar ddiwedd rhan gynta’r tymor, ac ers ffurfio’r fformat 12-tîm yn 2010 does dim un tîm erioed wedi llwyddo i ddringo allan o’r ddau isaf ar ôl dechrau ail ran y tymor ar waelod y tabl.
Bydd Y Barri hefyd yn teimlo’n rhwystredig ar ddechrau ail ran y tymor gan eu bod yn teimlo eu bod wedi gwneud digon i gyrraedd y Chwech Uchaf, ond gan i’r gêm rhwng Cei Connah a’r Bala gael ei hail-chwarae fe lithrodd Y Barri i’r hanner isaf.
Mae’r Barri wedi mynd ar rediad o bum gêm heb ennill am y tro cyntaf y tymor hwn, ond mae’r Dreigiau yn dechrau ail ran y tymor bedwar pwynt ar y blaen yn y ras am y 7fed safle ac mae’n gaddo i fod yn frwydr gyffrous rhyngddyn nhw â Chei Connah i gyrraedd y gemau ail gyfle.
Enillodd Aberystwyth o 1-0 gartref yn erbyn Y Barri ym mis Awst, cyn i’r Barri wneud yr un fath yn y gêm gyfatebol, yn ennill 1-0 gartref yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon ym mis Medi.
Record cynghrair diweddar:
Aberystwyth: ͏❌✅➖❌❌
Y Barri: ❌❌❌➖➖
Y Fflint (10fed) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe tymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond mae’r Nomadiaid wedi methu a chyrraedd y Chwech Uchaf eleni.
Gorffennodd Cei Connah yn 9fed yn nhymor 2021/22 ar ôl derbyn 18 pwynt o gosb am chwarae chwaraewr anghymwys, ond oni bai am hynny mae’r Nomadiaid wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ar bob achlysur ers gorffen yn 7fed yn 2014/15.
Bydd hi’n her newydd i Billy Paynter a’r tîm felly, ond mi fyddan nhw’n benderfynol o gau’r bwlch ar Y Barri a chipio’r 7fed safle er mwyn cyrraedd y gemau ail gyfle.
Mae’r Fflint mewn brwydr i osgoi’r cwymp gyda tri o glybiau eraill, ond dyw’r Sidanwyr heb golli yn eu chwe gêm yn erbyn y clybiau rheiny yn rhan gynta’r tymor (curo Aberystwyth a’r Drenewydd ddwywaith a cipio 4pt yn erbyn Llansawel).
Mae’r Fflint wedi ennill eu tair gêm gartref ddiwethaf, ond wedi dweud hynny fe gafon nhw grasfa mewn gêm ‘oddi cartref’ yn erbyn Cei Connah ar Gae-y-Castell ar ddydd San Steffan (Cei 7-2 Ffl).
Awst 2011 oedd y tro diwethaf i’r Fflint guro Cei Connah, ac ers hynny dyw’r Nomadiaid heb golli dim un o’u 12 gêm yn erbyn y Sidanwyr (ennill 10, cyfartal 2).
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏✅❌❌✅❌
Cei Connah: ͏➖✅❌❌❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.