Fe fydd Cymru yn sicrhau eu lle yn Euro 2024 am y trydydd tro yn olynol os ydynt yn ennill yn erbyn Gwlad Pwyl nos Fawrth.
Enillodd Cymru o bedair gôl i un yn erbyn Y Ffindir yn y rownd gynderfynol nos Iau wrth i Wlad Pwyl drechu Estonia o 5-1.
Fe ddaeth goliau Cymru nos Iau gan bedwar chwaraewr gwahanol sydd yn bositif iawn yn ôl seren Cymru, Harry Wilson.
“I think we’re sharing out goals, I think we’re sharing out assists…goals are coming from all over the pitch.”
Y tro diwethaf i Gymru herio Gwlad Pwyl oedd yn ôl yn 2022 yng Nghynghrair y Cenhedloedd, lle gollodd Cymru oddi cartref o 2-1 ac yn Stadiwm Dinas Caerdydd o 1-0, ond roedd edrychiad gwahanol iawn i’r garfan bryd hynny.
“Fi’n credu fod y garfan mewn lle lot yn well na ble o ni tro diwethaf yn erbyn Gwlad Pwyl.” meddai capten Cymru Ben Davies.
Mae’r ddau dim wedi cael profiad o chwarae mewn rownd derfynol gem ail gyfle yn ddiweddar, fe gurodd Cymru Wcrain yn Stadiwm Dinas Caerdydd i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 a roedd Gwlad Pwyl yn yr un sefyllfa hefyd a chanlyniad tebyg wrth guro Sweden o 2-0.
Fe gyrrhaeddodd Gwlad Pwyl rownd yr 16 olaf yn y gystadleuaeth honno, cyn colli yn erbyn Ffrainc o 3-1.
Ar restr y sgorwyr ar y noson honno roedd seren Gwlad Pwyl, Robert Lewandowski fydd yn siwr o greu problemau i Gymru nos Fawrth ond mae gan yr ymwelwyr chwaraewyr da ar draws y cae yn ôl Robert Page.
“They’ve got quality at the top of the pitch, the’ve got quality all over the pitch.”
Pe bai dynion Rob Page yn llwyddo i gyrraedd yr Almaen, fe fyddan nhw yn yr un grŵp â’r Iseldiroedd, Awstria a Ffrainc.