Wedi dau ohiriad yn ystod y pythefnos diwethaf oherwydd y glaw, bydd Y Fflint yn croesi bysedd y gall eu gêm yn erbyn Caernarfon fynd yn ei blaen ar Gae-y-Castell nos Fawrth.
Nos Fawrth, 21 Rhagfyr
Y Fflint (3ydd) v Caernarfon (7fed) | Nos Fawrth – 19:45
Roedd hi’n ganlyniad siomedig i’r Fflint dros penwythnos wrth iddyn nhw syrthio o’r 2il safle am y tro cyntaf ers mis Hydref yn dilyn colled o 2-0 yn erbyn Y Drenewydd.
Bydd y Cofis hefyd wedi teimlo’n rhwystredig ar ôl gorfod rhannu’r pwyntiau gydag Aberystwyth (3-3) ac hynny ar ôl bod ar y blaen o 2-0 wedi 20 munud.
Wrth edrych yn ôl dros y tymhorau diwethaf, 32 pwynt ydi’r cyfanswm cyfartalog sydd wedi bod ei angen i sicrhau lle yn y Chwech Uchaf ar yr hollt.
Fe allai’r Fflint gyrraedd y targed hollbwysig hwnnw o 32 pwynt pe bae nhw’n curo Caernarfon nos Fawrth.
Ond dyw’r Fflint heb ennill gêm gartref yn erbyn Caernarfon ers 2009 gyda’r Cofis yn ennill ar eu pum hymweliad diwethaf a Chae-y-Castell.
Mae cyn-flaenwr Caernarfon, Jack Kenny wedi sgorio 11 gôl gynghrair yn barod i’r Fflint y tymor hwn tra bod ei bartner Michael Wilde wedi rhwydo 12 gôl – yr unig dîm sydd â dau chwaraewr wedi cyrraedd ffigyrau dwbl.
Byddai buddugoliaeth i’r Cofis yn eu gadael dim ond un pwynt y tu ôl i’r Bala (6ed) cyn y ddwy gêm fawr rhwng y ddau dîm dros gyfnod y Nadolig.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅➖❌✅❌
Caernarfon: ✅❌✅❌➖
Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.