Bydd y tymor cyffredin yn dod i ben ddydd Sadwrn, ond cyn hynny mae yna gêm hollbwysig i’w chwarae rhwng dau dîm sydd mewn perygl gwirioneddol o syrthio o’r uwch gynghrair.
Y Fflint (10fed) v Caernarfon (9fed) | Nos Fercher – 19:30 (S4C arlein)
Bu’n rhaid gohirio’r gêm rhwng Y Fflint a Chaernarfon ar 8 Ebrill oherwydd ymladd ymysg y dorf, ac felly mae’r gêm yn cael ei ail-chwarae yr wythnos hon tu ôl i ddrysau caeedig.
Roedd Y Fflint wedi mynd 2-0 ar y blaen yn erbyn Caernarfon gyda llai na 10 munud ar y cloc, ac roedd hi’n edrych fel bod y Sidanwyr am gymeryd cam sylweddol at sicrhau eu lle yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.
Ond oherwydd y golygfeydd brawychus oddi ar y cae bu’n rhaid gohirio’r gêm wedi 15 munud ac felly mae’r Fflint, fel Caernarfon yn parhau i fod mewn sefyllfa bregus ger gwaelod y tabl.
Gyda’r gêm hon wrth gefn, mae’r Fflint yn hafal ar bwyntiau gydag Aberystwyth (11eg) tra bod Caernarfon ond un pwynt uwch eu pennau.
Cododd Y Fflint i’r uwch gynghrair yn 2020, ac er gorffen eu tymor cyntaf yn yr 11eg safle ni syrthiodd y Sidanwyr gan nad oedd neb yn codi o’r ail haen oherwydd gohiriadau Covid.
Y tymor diwethaf fe orffennodd Y Fflint yn y Chwech Uchaf o dan arweiniad Neil Gibson a chyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle cyn colli yn erbyn Caernarfon.
Ond eleni, mae’r Fflint a Chaernarfon yn cyfarfod mewn amgylchiadau bur wahanol gyda’r ddau glwb yn brwydro i aros yn y gynghrair.
Mae Caernarfon wedi gorfod bodloni ar le yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018, ac mi fydd y rheolwr newydd Richard Davies yn benderfynol o gadw’r Cofis yn yr uwch gynghrair.
Hon fydd y bedwaredd gêm rhwng y clybiau’r tymor yma ac mae wedi bod yn amhosib eu gwahanu hyd yn hyn gyda un buddugoliaeth yr un ac un gêm gyfartal.
Ond hon yn sicr fydd y gêm bwysicaf, gan y byddai buddugoliaeth i’r naill dîm neu’r llall yn sicrhau eu lle yn y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ✅❌❌➖✅
Caernarfon: ❌✅➖❌❌
Gemau dydd Sadwrn, 22 Ebrill: Aberystwyth v Caernarfon, Pontypridd v Y Fflint