S4C

Navigation

Bydd un gêm yn cael ei chwarae yn y Cymru Premier JD nos Fawrth wrth i’r Drenewydd a Phen-y-bont geisio codi uwchben Y Bala i’r ail safle. 

 

Y Drenewydd (3ydd) v Pen-y-bont (4ydd) | Nos Fawrth – 19:45 

Mae’n eithriadol o dynn yn y ras am yr ail docyn i Ewrop, a bydd y ddau glwb yma’n ymwybodol y byddai buddugoliaeth yn eu codi i’r ail safle gyda saith gêm ar ôl yn y tymor. 

Bydd gan Pen-y-bont gyfle arall i sicrhau pêl-droed Ewropeaidd ar ôl i dîm Rhys Griffiths guro’r Bala i selio lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Er hynny dyw Pen-y-bont ond wedi ennill un o’u chwe gêm gynghrair ddiwethaf, ac ennill dim ond un o’u saith gêm oddi cartref ddiwethaf yn y gynghrair. 

Wedi chwe gêm heb ennill roedd yna reswm i ddathlu o’r diwedd i’r Drenewydd yn eu gêm ddiwethaf wrth i dîm Chris Hughes ennill 4-0 oddi cartref yng Nghaernarfon. 

Bydd y fuddugoliaeth honno’n hwb i hyder Y Drenewydd sydd ond wedi colli un o’u naw gêm flaenorol yn erbyn Pen-y-bont. 

Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ͏͏➖❌❌✅
Pen-y-bont: ✅➖➖❌➖
 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?