S4C

Navigation

Er bod Cwpan Cymru yn cymeryd y prif sylw y penwythnos yma, mi fydd yna un gêm gynghrair yn cael ei chwarae brynhawn Sadwrn, ac fe alla’i fod yn gêm arwyddocaol yn y ras i gyrraedd y Chwech Uchaf. 

 

Dydd Sadwrn, 19 Chwefror 

Y Drenewydd (3ydd) v Met Caerdydd (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Wythnos ar ôl i Ryan Sears sgorio wedi 95 munud i sicrhau pwynt i’r Drenewydd yn erbyn Met Caerdydd a selio lle’r Robiniaid yn y Chwech Uchaf, bydd y clybiau’n cyfarfod eto ddydd Sadwrn mewn gêm all ddiffinio tymor y myfyrwyr. 

Yn fathemategol, fe all Met Caerdydd dal gyrraedd y Chwech Uchaf, er bod hynny’n bur anhebygol, ond gobaith mawr y myfyrwyr yw bod Cei Connah (6ed) yn colli eu hapêl yn erbyn y gynghrair ac yn colli pwyntiau am chwarae chwaraewr anghymwys, fyddai’n agor y drws i’r clwb yn y 7fed safle. 

Byddai buddugoliaeth i Met Caerdydd ddydd Sadwrn yn eu gadael yn hafal ar bwyntiau gyda Chaernarfon yn y 7fed safle gyda dim ond un gêm i’w chwarae cyn yr hollt.  

Ar ôl colli pedair gêm gynghrair yn olynol ym mis Tachwedd, bellach mae Met Caerdydd ar rediad o chwe gêm gynghrair heb golli.  

Wedi dechrau arbennig i’r tymor dyw pethau heb fynd cystal i’r Drenewydd ers y toriad dros y Nadolig gyda’r Robiniaid yn methu ag ennill dim un o’u tair gêm ddiwethaf. 

 

Record cynghrair diweddar: 

Y Drenewydd: ✅✅➖❌➖ 

Met Caerdydd: ͏➖✅➖➖ 

 

 

Bydd uchafbwyntiau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?