S4C

Navigation

RHAGOLWG – Y BARRI v MET CAERDYDD

Nos Fawrth, 10 Rhagfyr

Y Barri (7fed) v Met Caerdydd (4ydd) | Nos Fawrth – 19:45

Fe gafodd holl gemau pêl-droed Cymru eu gohirio ddydd Sadwrn yn sgil Storm Darragh, ond mae’r ras am y Chwech Uchaf yn ail-danio nos Fawrth pan fydd Y Barri a Met Caerdydd yn cyfarfod ar Barc Jenner.

Mae Met Caerdydd yn anelu i sicrhau lle yn yr hanner uchaf am y trydydd tymor o’r bron, a byddai triphwynt i’r myfyrwyr nos Fawrth yn eu codi i 31 o bwyntiau, sef y swm arferol sydd ei angen i gyrraedd y Chwech Uchaf.

Mae’r Barri (25pt) yn hafal ar bwyntiau gyda Caernarfon a Cei Connah yng nghanol y tabl, ond mae gan y Dregiau gemau wrth gefn, a byddai buddugoliaeth iddyn nhw nos Fawrth yn eu codi i’r 5ed safle.

Mae’r Barri yn mwynhau cyfnod campus ar ôl ennill pump o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf, a dim ond y ddau uchaf (Pen-y-bont ac YSN) sydd wedi llwyddo i guro tîm Steve Jenkins yn y gynghrair ers mis Awst.

Dyw Met Caerdydd heb fod ar eu gorau oddi cartref yn ddiweddar, yn colli pedair o’u pum gêm gynghrair ddiwethaf oddi cartref, a’r unig fuddugoliaeth yn dod yn erbyn y clwb ar waelod y tabl, Aberystwyth.

Ond bydd y myfyrwyr yn ffyddiog o sicrhau canlyniad positif ar Barc Jenner gan eu bod ond wedi colli un o’u naw gêm flaenorol yn erbyn Y Barri (ennill 5, cyfartal 3).

Record cynghrair diweddar:

Y Barri: ✅✅✅❌✅

Met Caerdydd: ͏➖✅❌➖✅

Bydd uchafbwyntiau’r gêm ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?