Wrecsam a Farnborough yn cwrdd am y tro cyntaf yn eu hanes. A fydd sioc ar y Cae Ras?
Ar ôl trechu Oldham o dair i ddim yn y rownd diwethaf, bydd Wrecsam yn herio Farnborough o’r chweched haen brynhawn Sadwrn.
Bydd dynion Phil Parkinson yn gobeithio cyrraedd y drydedd rownd am y tro cyntaf ers tymor 2014/15, ond mae prawf mawr yn erbyn Farnborough i boeni am cyn hynny.
Mae record cartref Wrecsam yn wych hyd yma, deg gêm cynghrair, deg buddugoliaeth, gyda stori debyg yn y gwpan hon hefyd yn curo Blyth Spartans yn y bedwaredd rownd rhagbrofol cyn curo Oldham yn y rownd 1af.
Bydd y Dreigiau yn llawn hyder yn mynd i mewn i’r gêm hon, yn eistedd ar ben y gynghrair a dim ond wedi ildio un gôl mewn pump gêm ym mis Tachwedd.
Paul Mullin yw prif sgoriwr Wrecsam yn y gystadleuaeth gyda tair i’w enw yn cynnwys dwy yn y rownd diwethaf.
Er y cychwyn sâl i’r tymor cafodd y tim o gynrhrair y dê yn colli saith o’u deg gêm cyntaf, mae pethau yn edrych am i fyny i dim Spencer Day gyda un o recordiau amddiffynol gorau yn y gynhrair hyd yma, yn ildio cyfartaledd o un gôl bob gêm a dim ond wedi ildio dau gôl yn eu chwe gêm diwethaf.
Problem fwyaf Farnborough yn y gynhrair yw sgorio goliau gyda dim ond pedwar tîm yn sgorio llai na nhw, pob un o rhain oddi tanddynt yn y tabl. Er hyn, mae’n stori hollol wahanol yng Nghwpan FA Lloegr gan eu bod wedi sgorio mwy o goliau mewn pump gêm yn y gwpan nac yn eu 17 gêm cynghrair y tymor hwn.
Bydd y Dreigiau’n ymwybodol o dalent Farnborough ar ôl iddynt achosi sioc yn y rownd ddiwethaf gan guro Sutton United o’r bedwaredd haen o ddwy i ddim oddi-cartref!
Dim ond dwy waith mae Farnborough erioed wedi cyrraedd y fan hon yn ngwhpan FA Lloegr, ar y ddwy achlysur fe wnaethon ennill yn erbyn Torquay a Southport.
Er mai’r gynghrair bydd prif ffocws Wrecsam y tymor hwn, gyda râs gystadleuol am y safle cyntaf yn datblygu gyda Notts County, bydd yn ddiddorol gweld os fydd Parkinson yn rhoi’r cyfle i chwaraewyr sydd heb gael llawer o gyfle yn y gynghrair hyd yma yntau parhau gyda ei dîm cryfaf ar gyfer y gêm.
Bydd y gêm yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C brynhawn Sadwrn o 15:00 gyda’r gic gyntaf am 15:15.
Bydd hefyd posib darllen diweddariadau byw o’r Cae Ras ar ein tudalen Trydar – @sgorio