Mae tymor newydd y Cymru Premier JD wedi cyrraedd, a gyda Bae Colwyn yn paratoi am eu gêm gyntaf erioed yn y gynghrair a’r Barri yn dychwelyd wedi blwyddyn o absenoldeb, mae’n gaddo i fod yn dymor cyffrous yn haen uchaf pêl-droed Cymru.
Nos Wener, 11 Awst
Hwlffordd v Pontypridd | Nos Wener – 19:45
Roedd hi’n haf i’w chofio i Hwlffordd oedd yn cystadlu’n Ewrop am y tro cyntaf ers 19 o flynyddoedd ar ôl ennill gemau ail gyfle Cymru Premier JD 2022/23.
Achosodd yr Adar Gleision dipyn o sioc yn Ewrop drwy guro KF Shkëndija o Ogledd Macedonia, ac roedden nhw’n anlwcus i golli yn erbyn B36 Tórshavn o Ynysoedd Ffaröe yn ail rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Er gorffen yn 7fed yn y tabl y tymor diwethaf, Hwlffordd oedd yr unig un o’r pedwar clwb oedd yn cynrychioli Cymru yn Ewrop dros yr haf i lwyddo i ennill gêm / rownd.
Bydd hyn yn hwb mawr i hyder y garfan fydd yn sicr yn anelu i orffen yn y Chwech Uchaf y tymor yma gan obeithio cystadlu am le’n Ewrop unwaith yn rhagor.
Byddai Pontypridd wedi bod yn fwy na bodlon gyda’u safle terfynol y tymor diwethaf, gyda’r newydd-ddyfodiaid yn gorffen yn 8fed yn eu hymgyrch gyntaf yn yr uwch gynghrair.
Fuodd Ponty’n fflyrtio uwchben safleoedd y cwymp am gyfnodau, ond fe orffennon nhw’r tymor yn gryf gan golli dim ond unwaith mewn 10 gêm gynghrair wedi’r hollt (vs Hwlffordd).
Pontypridd gafodd y gorau o’r gornestau rhwng y ddau dîm y tymor diwethaf gan ennill dwy o’r bedair gêm, cael un gêm gyfartal, ond colli’r frwydr ddiwethaf ar Ddôl-y-Bont ym mis Ebrill (Hwl 2-0 Pont).
Y Seintiau Newydd v Cei Connah | Nos Wener – 19:45
Mae llai na pedwar mis ers i’r Seintiau guro Cei Connah o 4-1 ar benwythnos ola’r tymor diwethaf cyn codi tlws y gynghrair am y 15fed tro yn eu hanes.
Gorffennodd YSN y tymor 22 pwynt yn glir o Gei Connah, sef y bwlch mwyaf rhwng y 1af a’r 2il ers tymor 2016/17, pan dorrodd y Seintiau y record byd am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau yn olynol.
Fe aeth y clybiau benben y penwythnos diwethaf yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG, a bydd Craig Harrison yn falch o fod wedi curo’r Nomadiaid o 2-1 gan iddo golli ei gêm gyntaf yn ôl fel rheolwr YSN yn yr un rownd, yn erbyn yr un gwrthwynebwyr llynedd.
Ond ers y golled honno ar giciau o’r smotyn ym mis Awst 2022, mae’r Seintiau wedi mynd ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn eu prif elynion, Cei Connah (ennill 3, cyfartal 2).
Roedd hi’n haf siomedig i’r ddau glwb gyda’r timau’n methu ac ennill dim un o’u gemau’n Ewrop, a’r canlyniadau hynny, ynghyd â cholled Pen-y-bont, yn golygu bod Cymru’n colli un lle’n Ewrop ar gyfer haf 2025.
Bydd y ddau dîm yn gobeithio am well dechrau i’r tymor na’r llynedd gan i’r ddau glwb fethu ag ennill ar y penwythnos agoriadol yn 2022/23 wrth i’r Seintiau gael gêm ddi-sgôr yn Y Drenewydd, a Chei Connah yn colli oddi cartref ym Met Caerdydd.
Rhaid mynd ‘nôl mor bell ag Awst 2017 at y tro diwethaf i’r Seintiau golli ar y penwythnos agoriadol, ac honno mewn gêm gofiadwy yn Nantporth (Bangor 5-2 YSN).
Dydd Sadwrn, 12 Awst
Aberystwyth v Met Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Bu Aberystwyth yn agos i syrthio o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes, ond ar ôl tymor cyfan ar yml y dibyn roedd buddugoliaeth yn erbyn Caernarfon ar y penwythnos olaf yn ddigon i gadw’r Gwyrdd a’r Duon yn y gynghrair am flwyddyn arall.
Roedd hi’n stori wahanol iawn i Met Caerdydd lwyddodd i orffen yn eu safle uchaf ers eu dyrchafiad yn 2016 (4ydd), ond yn colli’n y gemau ail gyfle ac felly’n methu a chyrraedd Ewrop.
Cafodd Aberystwyth a Met Caerdydd ddechrau calonogol i’w tymor y penwythnos diwethaf gyda buddugoliaethau yn erbyn Y Barri a Ffynnon Taf yng Nghwpan Nathaniel MG.
Dyw Met Caerdydd heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn Aberystwyth (ennill 4, cyfartal 1), a dyw’r myfyrwyr heb golli oddi cartref yn erbyn y Gwyrdd a’r Duon ers 2019 (ennill 5, cyfartal 2 ers hynny).
Y Bala v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30
Wedi blwyddyn yn yr ail haen mae’r Barri yn ôl yn yr uwch gynghrair ar ôl ennill y Cymru South JD, 16 pwynt yn glir o Lanelli (2il).
Ond dyw hi heb fod yn haf delfrydol i’r Dreigiau gyda Lee Kendall yn gadael ei swydd fel rheolwr clwb dim ond pythefnos cyn dechrau’r tymor.
Steve Jenkins sydd wedi cael ei benodi i gymryd ei le, a gyda phrofiad o hyfforddi clybiau fel Merthyr, Henffordd, Barnet a thîm dan 18 Caerdydd, mae’n benodiad cyffrous i’r Barri.
Bu Jenkins yn gwylio’r Barri yn colli gartref yn erbyn Aberystwyth yng Nghwpan Nathaniel MG ddydd Sadwrn diwethaf, ond mi fydd yn cymryd yr awennau am y tro cyntaf yn erbyn Y Bala.
Cafodd Y Bala ddechrau ardderchog i’w tymor gan drechu Rhuthun 0-4 oddi cartref, wrth gychwyn ar eu hymgrych i ddal eu gafael ar Gwpan Nathaniel MG.
Hon yw’r gêm gyntaf rhwng y clybiau ers Hydref 2021 pan orffennodd hi’n 3-3 ar Faes Tegid gyda Lassana Mendes yn sgorio ddwywaith i’r Bala yn yr hanner cyntaf cyn i Kayne McLaggon wneud yr un fath i’r Barri yn yr ail hanner i gipio pwynt.
Dyw’r Barri heb drechu’r Bala ers y fuddugoliaeth gofiadwy o 6-2 ar Barc Jenner ym mis Mawrth 2021, ac fe sgoriodd McLaggon ddwy gôl yn y gêm honno hefyd.
Ebrill 2019 oedd y tro diwethaf i’r Dreigiau ennill oddi cartref ym Maes Tegid, ac roedd honno’n gêm wallgo arall (Bala 2-5 Barri)… a do siwr, fe sgoriodd McLaggon ddwy gôl yn hon hefyd!
Y Drenewydd v Pen-y-bont | Dydd Sadwrn – 14:30
Bydd y disgwyliadau yn uchel i’r ddau dîm yma eleni gan i’r clybiau arwyddo blaenwyr profiadol dros yr haf.
Mae enillydd gwobr ‘Chwaraewr y Tymor 2016/17’ Jason Oswell wedi dychwelyd i’r Drenewydd, chwe mlynedd ar ôl gadael Parc Latham.
Sgoriodd Oswell 22 o goliau cynghrair i’r Robiniaid yn 2016/17 gan ennill gwobr yr Esgid Aur, cyn mynd ymlaen i gynrychioli Stockport, Morecambe, Wrecsam a Telford.
Mae gan ymosodwr newydd Pen-y-bont bump Esgid Aur i’w enw, a bydd profiad Chris Venables yn allweddol os yw’r clwb am geisio gwthio’r ddau uchaf eleni.
Gorffennodd Pen-y-bont yn eu safle uchaf erioed y tymor diwethaf (3ydd) gan sicrhau lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Sgoriodd Venables yn ei gêm gyntaf i’r clwb yn erbyn FC Santa Coloma o Andorra, ond colli bu hanes Pen-y-bont dros y ddau gymal.
Bydd Y Drenewydd a Pen-y-bont yn awyddus i roi siom y penwythnos diwethaf y tu ôl iddynt gan i’r ddau dîm golli ar giciau o’r smotyn yn erbyn clybiau o’r ail haen.
Cyrraedd Ewrop fydd y nod i’r ddau glwb eto eleni, ond bydd y fantais seicolegol gan yr ymwelwyr gan i Ben-y-bont ennill eu pedair gêm yn erbyn Y Drenewydd y tymor diwethaf.
Dydd Sul, 13 Awst
Bae Colwyn v Caernarfon | Dydd Sul – 17:15 (S4C)
Ar ôl blynyddoedd yn cystadlu ym mhyramid pêl-droed Lloegr, a thri tymor yng Nghynghrair y Gogledd, mae Bae Colwyn yn barod am eu gêm gyntaf erioed yn Uwch Gynghrair Cymru.
Aeth y Gwylanod ar rediad o 25 buddugoliaeth yn olynol yn y Cymru North JD y tymor diwethaf, ond er hynny fe gafon nhw eu gwthio hyd at y gêm olaf gan Treffynnon, oedd yn dynn ar eu sodlau.
Mae’r rheolwr Steve Evans yn gyfarwydd iawn â’r uwch gynghrair ar ôl ennill y bencampwriaeth ar saith achlysur gyda’r Seintiau Newydd, cyn treulio cyfnod yn is-reolwr yn Neuadd y Parc.
Chwaraeodd Evans i Gaernarfon ar ddechrau tymor 2021/22 cyn cael ei benodi yn reolwr ar Fae Colwyn yn Ionawr 2022.
Bydd Caernarfon yn awyddus i ddychwelyd i’r Chwech Uchaf ar ôl methu a chyrraedd y nod y tymor diwethaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018.
Gorffennodd y Cofis ond bedwar pwynt uwchben safleoedd y cwymp, ond mae’r rheolwr Richard Davies wedi arwyddo Adam Davies a Marc Williams yn y gobaith o gryfhau ei linell ymosodol.
Bydd ychwanegiad Bae Colwyn yn hwb mawr i’r gynghrair gan i’r clwb ddenu torf gyfartalog o 720 i’w gemau cartref y tymor diwethaf, swm dipyn uwch na’r 478 cyfartalog oedd yn mynd i wylio Caernarfon.
Ond roedd yna 812 ar yr Oval nos Wener diwethaf i weld Caernarfon yn colli ar giciau o’r smotyn yn erbyn Porthmadog, gyda 512 yn gwylio Bae Colwyn yn rhoi crasfa o 5-0 i Airbus UK.
Hon fydd y gêm gynghrair gyntaf rhwng Bae Colwyn a Chaernarfon ers dros 30 o flynyddoedd pan oedd y ddau dîm yn aelodau o ‘Northern Premier League Division One’ yn 1991/92, ac mae’n gaddo i fod yn dipyn o achlysur wrth i ni groesawu’r Bae i brif gynghrair pêl-droed Cymru.