Mae tymor newydd Uwch Gynghrair Cymru wedi cyrraedd, ac mae dau glwb newydd ac wyth rheolwr newydd yn paratoi i ddechrau ar eu hymgyrch dros y penwythnos.
Nos Wener, 12 Awst
Airbus UK v Aberystwyth | Nos Wener – 19:45
Wedi dim ond dwy flynedd o absenoldeb mae Airbus UK yn ôl yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl cael eu coroni’n bencampwyr Cynghrair y Gogledd y tymor diwethaf.
Gohirwyd y tymor blaenorol yn yr ail haen oherwydd Covid-19 felly mae Airbus wedi llwyddo i esgyn yn ôl ar y cynnig cyntaf, a bydd Steve O’Shaughnessy yn benderfynol o sicrhau bod bechgyn Brychdyn yn aros i fyny eleni.
Bydd Airbus yn beryglus ar eu tomen eu hunain gan i’r clwb fynd drwy’r tymor cyfan llynedd heb golli gartref yn y gynghrair (ennill 13, cyfartal 1).
Mae’n ddechrau cyfnod newydd i Aberystwyth hefyd sydd wedi penodi cyn is-reolwr Met Caerdydd, Anthony Williams fel eu rheolwr newydd yn dilyn ymadawiad Antonio Corbisiero dros yr haf.
Treuliodd Aberystwyth ran helaeth o’r tymor diwethaf tua’r gwaelodion, ond ar ôl rhediad o bum gêm heb golli ar ddiwedd y tymor fe orffenodd y Gwyrdd a’r Duon yn 8fed, sef eu safle gorau ers tair blynedd.
Mae Jake Phillips wedi dychwelyd am ail gyfnod gydag Airbus UK, tra bod dau o chwaraewyr gorau Derwyddon Cefn y tymor diwethaf, Charley Edge a Niall Flint wedi gwneud y symudiad i Aberystwyth.
Yn y gemau cynghrair blaenorol rhwng y timau ‘nôl yn 2019/20 fe lwyddodd Aberystwyth i sgorio pum gôl yn y ddwy gêm yn erbyn Airbus (Air 1-5 Aber, Aber 5-3 Air).
Dydd Sadwrn, 13 Awst
Hwlffordd v Caernarfon | Dydd Sadwrn – 14:30
Wedi wyth blynedd fel aelod o dîm rheoli Hull City, mae Tony Pennock wedi gwneud y symudiad i’r de-orllewin i gymryd yr awennau yn Hwlffordd.
Gorffennodd yr Adar Gleision yn 10fed y tymor diwethaf, un safle uwchben y ddau isaf, a bydd Pennock eisiau adeiladu ar hynny ac anelu am yr hanner uchaf eleni.
Roedd hi’n dymor weddol lwyddiannus i Gaernarfon byddai wedi selio lle yn Ewrop mewn unrhyw flwyddyn arall am ennill y gemau ail gyfle, ond gan i Gymru golli un tocyn i Ewrop bu rhaid i’r Cofis fodloni ar le yng Nghwpan Her yr Alban.
Mae’r ddau glwb wedi arwyddo golwyr o safon gyda cyn-golwr y Caneris, Lewis Brass yn ymuno â Hwlffordd, tra bod Josh Tibbetts wedi dychwelyd i’r Oval am yr eildro.
Enillodd Caernarfon eu dwy gêm yn erbyn Hwlffordd y tymor diwethaf, yn cynnwys eu buddugoliaeth o 2-0 ar benwythnos agoriadol y tymor.
Met Caerdydd v Cei Connah | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae yna reolwyr newydd wrth y llyw yn y ddau glwb yma, ac mae’r ddau wedi cael dechrau addawol i’w teyrnasiaeth.
Yn ail rownd Cwpan Nathaniel MG y penwythnos diwethaf fe enillodd Met Caerdydd 2-1 yn erbyn Y Drenewydd (2-1) o dan eu rheolwr newydd Ryan Jenkins.
Ac roedd na her a hanner yn wynebu Neil Gibson yn ei gêm gyntaf fel rheolwr Cei Connah, ond fe lwyddodd y deiliaid i drechu’r Seintiau Newydd ar giciau o’r smotyn.
Yn ogystal â Gibson mae Michael Wilde, Ben Nash a Callum Bratley wedi gwneud y daith fer o’r Fflint i Gei Connah, ac wedi tymor siomedig yn yr hanner isaf (oherwydd cosb am golli pwyntiau) bydd y Nomadiaid yn siwr o gystadlu tua’r brig eto eleni.
Bydd hi’n brawf ar y myfyrwyr y tymor yma sy’n dechrau pennod newydd wedi i’r Dr Christian Edwards adael ei rôl fel hyfforddwr y tîm cyntaf wedi 13 o flynyddoedd gyda’r clwb.
Ers dyrchafiad Met Caerdydd yn 2016 dyw’r myfyrwyr heb ennill dim un o’u 18 gêm gynghrair yn erbyn Cei Connah (cyfartal 7, colli 11).
Y Drenewydd v Y Seintiau Newydd | Dydd Sadwrn – 14:30
Y Drenewydd oedd yr unig un o glybiau Cymru i ennill rownd Ewropeaidd dros yr haf, a bydd y fuddugoliaeth honno yn erbyn HB o Ynysoedd Ffaro yn hwb mawr i goffrau’r Robiniaid.
Roedd yna siom i’r Seintiau yn Ewrop wrth i bencampwyr Cymru golli yn erbyn Linfield o Ogledd Iwerddon, cyn colli eto yn erbyn Vikingur Reykjavik o Wlad yr Iâ.
Ac roedd y canlyniadau yn rhai costus i Anthony Limbrick gafodd ei ddiswyddo, er iddo ennill y bencampwriaeth o 21 o bwyntiau y tymor diwethaf.
Mae rheolwr mwyaf llwyddiannus y pyramid Cymreig, Craig Harrison wedi dychwelyd i Neuadd y Parc bum mlynedd ers gadael y clwb ble enillodd chwe pencampwriaeth, Cwpan Cymru (4) a Chwpan y Gynghrair (3).
Ers gadael Y Seintiau Newydd yn 2017 mae Harrison wedi cael cyfnodau heriol yn rheoli Hartlepool a Bangor cyn codi Cwpan Nathaniel MG fel rheolwr Cei Connah y tymor diwethaf.
Bydd yr ymosodwr Louis Robles yn awyddus i greu argraff i’r Robiniaid yn erbyn ei gyn-glwb tra bod Josh Pask yn ychwanegiad cryf i amddiffyn Y Seintiau Newydd.
Fe enillodd Y Drenewydd un o’u pedair gêm yn erbyn Y Seintiau’r tymor diwethaf, ond dyw’r Robiniaid heb ennill gartref yn erbyn cewri Croesoswallt ers Rhagfyr 2013.
Pontypridd v Y Fflint | Dydd Sadwrn – 17:45 (S4C)
Dyma 31ain tymor Uwch Gynghrair Cymru ac mae dyrchafiad Pontypridd yn golygu mai nhw yw’r 42ain clwb gwahanol i ymddangos yn y gynghrair ers 1992.
Mae’r rheolwr newydd Andrew Stokes wedi bod yn brysur yn recriwtio nifer o hen bennau profiadol y gynghrair i’w garfan gydag enwau cyfarwydd fel Ashley Morris, Clayton Green a Luke Cummings yn arwyddo i Bontypridd.
Ac er bod Y Fflint yn paratoi am eu trydydd tymor yn olynol yn Uwch Gynghrair Cymru bydd y tîm yn teimlo fel un hollol newydd yn dilyn newidiadau sylweddol dros yr haf.
Gadawodd Neil Gibson y clwb ac fe aeth rhan helaeth o’r garfan trwy’r drws ar ei ôl, ac felly mae’r rheolwr newydd Lee Fowler wedi gorfod adeiladu carfan o’r newydd ar gyfer dechrau’r tymor.
Mae’r Ffrancwr profiadol, Jean-Louis Akpa Akpro yn sicr yn un chwaraewr cyffrous i gadw llygad arno ar Gae-y-Castell y tymor yma.
Hon fydd y gêm gystadleuol gyntaf erioed rhwng dau glwb fydd yn ysu am ddechrau cadarnhaol i’r tymor newydd.
Dydd Sul, 14 Awst
Pen-y-bont v Y Bala | Dydd Sul – 14:30
Cafodd Pen-y-bont ddiweddglo echrydus i’r tymor diwethaf gan golli naw gêm yn olynol, yn cynnwys colled drom o 11-0 yn erbyn Y Bala ddilynodd at gosb ariannol i’r clwb am chwarae tîm gwan yn y gynghrair.
Roedd Pen-y-bont yn amlwg wedi gosod eu gobeithion i gyd ar geisio ennill Cwpan Cymru i gyrraedd Ewrop, ond roedd y golled yn erbyn Y Seintiau Newydd yn y rownd derfynol yn ddiweddglo siomedig i dymor siomedig.
Wedi dweud hynny fe ddechreuodd Pen-y-bont ail ran y tymor yn yr ail safle, felly mae’r gallu yn sicr gan dîm Rhys Griffiths i fynd gam ymhellach eleni a chystadlu am le yn Ewrop.
Y Bala ddaeth yn ail y tymor diwethaf a’r nod i griw Colin Caton eleni bydd i drio cau’r bwlch ar y Seintiau Newydd.
Yn ogystal â Luke Wall a James Davies, mae’r Bala wedi ychwanegu’r ymosodwr George Newell i’r garfan fydd yn gobeithio datblygu partneriaeth effeithiol gyda’r capten Chris Venables yn y llinell flaen.
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:30.