Rhagolwg Tymor 2022/23 Prif Adran Genero
Mae tymor Y Brif Adran Genero 2022/23 yn cychwyn ar ddydd Sul 4ydd Medi ac mae digon i edrych ymlaen ato yn yr ymgyrch newydd.
Bydd pencampwyr Prif Adran Genero 2021/22 Abertawe yn ceisio amddiffyn eu teitl, gan ddechrau gyda gêm ar y diwrnod agoriadol yn erbyn Met Caerdydd, a ddaeth yn ail y tymor diwethaf, o flaen camerâu Sgorio yn Stadiwm Swansea.com.
Fe gipiodd yr Elyrch y teitl am y trydydd tymor yn olynol ym mis Ebrill ac fe fyddan nhw’n anelu at wneud hi’n bedwar yn olynol o dan y prif hyfforddwr newydd Ceri Phillips, gafodd ei benodi yn yr haf.
Gorffennodd Met Caerdydd, a gipiodd Dlws yr Adran Genero a chyrraedd Cwpan Merched CBDC y tymor diwethaf, bedwar pwynt o dan yr Elyrch yn yr ail safle yn nhymor 2021/22. Bydd y myfyrwyr yn edrych i frwydro am y teitl unwaith yn rhagor y tymor hwn.
Emily Allen oedd y perfformiwr mwyaf nodedig i’r Archers y tymor diwethaf gydag 11 gôl gynghrair i’w henw ac mae’n siŵr y bydd hi’n allweddol i obeithion Met o godi’r teitl am y tro cyntaf ers ymgyrch 2018/19.
Roedd chwaraewyr o dimau lefel oedran Cymru – gan gynnwys Phoebie Poole, Lilly Billingham a Seren Watkins – yn disgleirio i dîm pêl-droed Caerdydd y tymor diwethaf wrth i’r Adar Gleision godi Cwpan Merched CBDC, cyrraedd rownd derfynol Tlws yr Adran Genero a gorffen yn drydydd yn Y Brif Adran Genero.
Ond fe orffennodd tîm Iain Darbyshire 11 pwynt tu ôl i’r pencampwyr y tymor diwethaf ac fe fyddan nhw’n edrych i gau’r bwlch hwnnw y tro hwn, gyda’r Adar Gleision yn chwilio am eu hail brif deitl.
Cafwyd rhywfaint o syndod yn Aberystwyth y tymor diwethaf wrth i Gavin Allen arwain y clwb i’r pedwerydd safle ar ôl gorffen yn nawfed yn nhymor 2020/21.
Llwyddodd y Seasiders i ddal pencampwyr Dinas Abertawe i bâr o gemau cyfartal y tymor diwethaf, ond er hynny fe orffennon nhw 19 pwynt yn is na thrydydd a byddant yn anelu at ddod yn nes at y tri uchaf y tymor hwn.
Cafodd Pontypridd United eu coroni’n bencampwyr Cynhadledd Uwch Gynghrair Genero Adran gyntaf y tymor diwethaf ond bydd ganddynt uchelgais o gyrraedd y pedwar uchaf yn yr ymgyrch sydd i ddod.
Mae’r pennaeth newydd, James Fishlock, fydd yn arwain y Dreigiau i’r ymgyrch newydd tra bod Fern Burrage-Male ar gyfnod mamolaeth, wedi ychwanegu profiad rhyngwladol i’w rengoedd wrth arwyddo chwaraewr canol cae Cymru Jasmine Turner.
Cafodd y Seintiau Newydd ddechrau anodd yn 2021/22 ond fe llwyddon nhw i osgoi’r cwymp ar ôl diweddglo cryf i’r ymgyrch, gan orffen pwynt y tu ôl i Bontypridd yn y Gynhadledd yn y pen draw.
Profodd goliau Caitlin Chapman yn allweddol wrth iddi daro ym mhob un o’u pum gêm olaf y tymor i helpu i fynd â’r Seintiau ymhellach i ffwrdd o’r safleoedd cwymp, ond bydd y rheolwr Andy Williams yn gobeithio osgoi unrhyw straen o frwydr ar y gwaelod gyda dechrau gwell i’r tymor newydd.
Llwyddodd Barry Town United hefyd i osgoi’r cwymp i’r Genero Adran De ar wahaniaeth goliau yn dilyn diwrnod olaf dramatig, wrth i’r Linnets guro Pontypridd i oroesi ar draul Port Talbot Town.
Mae’r tîm o Barc Jenner ar fin cyhoeddi rheolwr newydd cyn y tymor newydd gyda Josh Anderson yn gadael y clwb, cyn ymuno â’r gelynion o’r Fenni, sy’n paratoi ar gyfer bywyd yn ôl yn yr haen uchaf yn dilyn eu dyrchafiad o Adran Genero De.
Mae gan y rheolwr Craig Morgan-Hill ddigon o chwaraewyr gyda phrofiad ar y lefel uchaf gan gynnwys yr ymosodwr Lyndsey Davies, a orffennodd fel prif sgoriwr 2021/22 yn y Genero Adran De.