Bydd Clwb Pêl-droed Amwythig a Wrecsam yn cyfarfod am y tro cyntaf ers bron i 16 mlynedd ddydd Sul wrth i’r ddau glwb geisio selio lle ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr Emirates.
Amwythig gipiodd y triphwynt y tro diweddaf i’r ddau glwb gwrdd gyda buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 gyda’r clybiau yn cymryd llwybrau gwahanol ers hynny wrth i Amwythig gael cyfnod llwyddiannus o saith mlynedd yng Nghynghrair Un tra bod Wrecsam wedi treulio 15 tymor y tu allan i’r gynghrair cyn ennill dyrchafiad i Gynghrair Dau y tymor diwethaf.
Mae’r tîm cartref wedi goroesi cwpl o gemau anodd iawn i gyrraedd y rownd hwn. Yn y Rownd Gyntaf fe lwyddon nhw i guro Colchester o dair gôl i ddwy cyn sicrhau buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn prif elynion Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol y llynedd, Notts County yn yr ail rownd.
Roedd Wrecsam yn fuddugol o drwch blewyn o flaen camerau S4C yn erbyn Mansfield yn y rownd gyntaf, cyn cael gêm llawer mwy cyfforddus ar Y Cae Ras yn yr ail rownd wrth daro tair heibio Yeovil.
Daw’r Amwythig i mewn i’r gêm ar ôl cyfnod siomedig dros y Nadolig wrth golli pedwar o’u pum gêm diwethaf ond sicrhawyd fuddugoliaeth gartref o 3-1 yn erbyn y tîm sydd ar waelod y domen y gynghrair sef Fleetwood sy’n golygu fod tîm Matthew Taylor yn 13eg yn Adran Un.
Bydd tîm Phil Parkinson yn teimlo’n hyderus gan ei bod nhw wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf ac yn gyfartal ar bwyntiau gyda Mansfield yn y trydydd safle – dim ond dau bwynt tu ôl i’r ceffylau blaen, Stockport.
Fe gyrrhaeddodd Amwythig y drydedd rownd y tymor diwethaf hefyd cy collli o ddwy i un yn erbyn Sunderland.
Cafodd Wrecsam rediad anhygoel yn y gystadleuaeth yn cynnwys buddugoliaeth y erbyn Coventry o’r Bencampwriaeth. Seren Wrecsam Paul Mullin oedd prif sgoriwr Cwpan FA Lloegr y tymor diwethaf gyda wyth (8) gôl.
Mae disgwyl y bydd pob tocyn wedi’i werthu yn Croud Meadow ddydd Sul ar gyfer y gêm ddarbi hon.
Bydd y cyfan yn fyw ar S4C ddydd Sul am 1.30 gyda’r gic gyntaf am 2. Bydd uchafbwyntiau hefyd ar gael ar blatfformau cymdeithasol Sgorio yn dilyn y gêm.