S4C

Navigation

Dros y penwythnos bydd 32 o glybiau yn cystadlu yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD.  

Bydd naw o glybiau’r uwch gynghrair yn cymryd rhan, yn ogystal â 14 o dimau’r ail haen, saith o’r drydedd haen, Port Talbot o’r bedwaredd haen, a’r clwb isaf ar ôl yn y gystadleuaeth, sef Glynnedd o’r bumed haen.  

 

Nos Wener, 21 Tachwedd 

Cambrian United (2) v Pen-y-bont (1) 

Llandudno (2) v Cei Connah (1) 

Llanelli (1) v Y Barri (1) 

Met Caerdydd (1) v Y Seintiau Newydd (1) 

 

Dydd Sadwrn, 22 Tachwedd 

Bangor 1876 (3) v Treffynnon (2) 

Caerfyrddin (2) v Bae Colwyn (1) 

Caernarfon (1) v Penrhyncoch (2) 

Dolgellau (3) v Caerau Trelai (2) 

Draconiaid Caerdydd (2) v Trefelin (2) 

Glynnedd (5) v Bae Trearddur (3) 

Penrhiwceibr (3) v Gresffordd (2) 

Porthmadog (3) v Port Talbot (4) 

Sêr Treowen (2) v Pontypridd (2) 

Y Rhyl 1879 (2) v Cwmbrân (3) 

Y Fflint (1) v Airbus UK (2) 

 

Dydd Sul, 23 Tachwedd 

Dinas Casnewydd (2) v Blaenafon (3) 

 

Bydd y cyffro’n cychwyn nos Wener pan fydd deiliaid Cwpan Cymru JD, Y Seintiau Newydd yn ceisio gyrru Met Caerdydd allan o’r gystadleuaeth am y trydydd tymor yn olynol.  

Enillodd Met Caerdydd o 3-2 oddi cartref yn erbyn y Seintiau yn gynharach y mis hwn mewn gêm gynghrair, ond bydd Craig Harrison yn benderfynol o ddîal ar y myfyrwyr nos Wener. 

Yn yr unig ornest arall rhwng dau o dimau’r uwch gynghrair bydd y tîm sydd ar waelod y tabl, Llanelli yn croesawu’r Barri i Barc Stebonheath – dau glwb sydd wedi cael eu dwylo ar y cwpan yn ystod y ganrif hon. 

Mae Cei Connah wedi codi’r cwpan ddwywaith yn y 10 mlynedd diwethaf, ac mi fyddan nhw’n gobeithio osgoi sioc oddi cartref yn erbyn un o glybiau cryfaf yr ail haen, Llandudno. 

Llwyddodd Pen-y-bont i gyrraedd y rownd derfynol yn 2021/22 cyn colli’n erbyn y Seintiau, a bydd tîm Rhys Griffiths yn awyddus i fynd gam ymhellach eleni, ond bydd rhaid iddynt hwythau guro gwrthwynebwyr cadarn o’r ail haen nos Wener, sef Cambrian United. 

Cododd Bangor y gwpan deirgwaith yn olynol rhwng 2008 a 2010, a bydd y clwb dan ei newydd-wedd yn wynebu her anodd yn erbyn Treffynnon brynhawn Sadwrn. 

Bydd enillwyr 2006/07, Caerfyrddin yn croesawu Bae Colwyn i Barc Waun Dew wrth i’r clybiau gyfarfod am y tro cyntaf erioed, ac hynny yn fyw ar S4C. 

Mewn gêm ddarbi yn Sir y Fflint bydd Airbus UK yn gwneud y daith fer i Gae y Castell i herio’r Fflint, tra bydd Caernarfon yn croesawu Penrhyncoch i Barc Maesdu.  

Y Rhyl oedd enillwyr y gystadleuaeth yn 2005/06, a bydd y Lilisgwynion yn croesawu Cwmbrân i’r Belle Vue brynhawn Sadwrn, clwb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar dri achlysur, ond sydd erioed wedi codi’r tlws. 

Llwyddodd Port Talbot i guro’u cymodgion, Lido Afan yn y rownd ddiwethaf, a’r wobr i’r Gwŷr Dur yw taith bell i Borthmadog brynhawn Sadwrn.  

Glynnedd yw’r tîm isaf ar ôl yn y gystadleuaeth, ac mi fydd y clwb o’r bumed haen yn herio Bae Trearddur, sydd ddwy gynghrair uwch eu pennau. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?