S4C

Navigation

Dros y penwythnos bydd 32 o glybiau yn cystadlu yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru JD.  

 

Nos Wener, 15 Tachwedd 

 

Lido Afan (2) v Morriston (3) 

 

Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd 

 

Airbus UK (2) v Goytre (3) 

Bae Colwyn (2) v Rhuthun (2) 

Caerau Trelai (2) v Rogerstone (4) 

Caersws (2) v Bangor 1876 (2) 

Cambrian (2) v Llandudno (2) 

Hotspur Caergybi (3) v Bae Trearddur (3)  

Llanelli (2) v Y Pîl (4) 

Llanrwst (3) v Dinbych (2) 

Llanuwchllyn (3) v Prifysgol Abertawe (3) 

Met Caerdydd (1) v Y Seintiau Newydd (1) 

Penydarren (4) v Caerfyrddin (2) 

Rhydaman (2) v Hwlffordd (1) 

Trefelin (2) v Cei Connah (1) 

Y Fflint (1) v Y Bala (1) 

Yr Wyddgrug (2) v Llansawel (1) 

 

Dim ond saith allan o 12 clwb yr uwch gynghrair sydd wedi llwyddo i gyrraedd y drydedd rownd, a bydd o leiaf dau dîm arall o’r haen uchaf yn gadael y gystadleuaeth yn y rownd hon gan bod Met Caerdydd yn wynebu’r Seintiau Newydd, a’r Fflint yn croesawu’r Bala brynhawn Sadwrn. 

Chwaraeodd Met Caerdydd yn erbyn Y Seintiau Newydd yn y rownd gynderfynol y tymor diwethaf, ac er i’r myfyrwyr fynd 2-0 ar y blaen, fe frwydrodd y Seintiau’n ôl ac ennill o 6-2 yn y pen draw. 

Mae’r Fflint a’r Bala wedi cyfarfod yn y gwpan yn 2018, 2019 a 2022 ac hon fydd y drydedd gêm rhwng y timau eleni ar ôl i’r Bala ennill unwaith, cyn cael gêm gyfartal ar Gae y Castell fis diwethaf. 

Bydd deiliaid y gwpan, Cei Connah yn teithio i Drefelin o Gynghrair y De, ble enillodd y Nomadiaid o 4-0 yn y drydedd rownd yn 2021. 

Ar ôl curo Aberystwyth yn y rownd ddiwethaf, bydd Rhydaman yn ceisio achosi sioc arall ddydd Sadwrn yn erbyn Hwlffordd o’r haen uchaf. 

Bydd Yr Wyddgrug hefyd yn anelu i drechu clwb o’r uwch gynghrair wrth i Lansawel wneud y daith hir i Sir y Fflint ddydd Sadwrn. 

Mae tri chlwb o’r bedwaredd haen wedi llwyddo i gyrraedd y drydedd rownd, ac mae’r tri yn wynebu timau o Gynghrair y De (ail haen). 

A darbi fawr Ynys Cybi yw un o gemau mwyaf y penwythnos wrth i Hotspur Caergybi gystadlu gyda Bae Trearddur am le yn y bedwaredd rownd. 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?