S4C

Navigation

Rydyn ni lawr i’r wyth olaf yng Nghwpan Cymru JD, a dros y penwythnos bydd pump o glybiau’r Cymru Premier JD yn cystadlu am le yn y rownd gynderfynol ynghyd â un clwb yr un o Gynghrair y Gogledd, Cynghrair y De a Chynghrair y Gogledd Orllewin.

Nos Wener, 16 Chwefror

Llansawel (Haen 2) v Y Seintiau Newydd (Haen 1) | Nos Wener – 19:45

4edd Rownd: Llansawel 1-0 Llanelli, Caerfyrddin 0-3 Y Seintiau Newydd
3edd Rownd: Airbus UK 1-2 Llansawel, Y Seintiau Newydd 7-0 Adar Gleision Trethomas
2il Rownd: Aberfan 0-3 Llansawel, Rhuthun 0-5 Y Seintiau Newydd

Bydd y penwythnos yn dechrau gyda gêm gyffrous rhwng y ddau dîm sydd ar frig Cynghrair y De a’r Cymru Premier JD.

Mae Llansawel yn eistedd ar gopa’r Cymru South JD ac yn anelu i esgyn i’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers ffurfiwyd y clwb yn 2009.

Llynedd, fe lwyddodd Llansawel i gyrraedd rownd yr wyth olaf am y tro cyntaf yn eu hanes cyn colli yn erbyn Y Bala, a bydd tîm Andy Dyer yn awyddus i fynd gam ymhellach eleni.

Ond fe fyddai’n sioc fwya’r tymor pe bae Llansawel yn trechu’r Seintiau Newydd gan eu bod nhw wedi ennill 28 gêm yn olynol am y tro cyntaf yn eu hanes ac yn llygadu’r ‘quadruple’ eleni.

Ers eu colled diwethaf yn erbyn Swift Hesperange ar Awst y 1af, mae’r Seintiau Newydd wedi mynd ar rediad o 36 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth gan dorri 17 pwynt yn glir o Gei Connah ar frig y Cymru Premier JD.

Yn ogystal â sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD, mae’r Seintiau eisoes wedi codi Cwpan Nathaniel MG ym mis Ionawr, ac wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan Her yr Alban am y tro cyntaf erioed.

Enilodd Y Seintiau Newydd y trebl domestig ddwywaith yn olynol rhwng 2014-16 dan arweiniad Craig Harrison, ond ennill y ‘quadruple’ am y tro cyntaf yw’r nod eleni.

Ers colli yn erbyn Cei Connah yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru 2017/18, mae’r Seintiau Newydd wedi ennill 23 gêm yn olynol yn y gystadleuaeth gan godi’r gwpan deirgwaith yn olynol.

Y tymor diwethaf fe enillodd y Seintiau o 6-0 yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Y Bala, sef y fuddugoliaeth fwyaf mewn ffeinal ers 1931.

Dyna oedd y 9fed tro i’r clwb o Groesoswallt gael eu henw ar y cwpan, a bellach dim ond Wrecsam (23), Caerdydd (22) ac Abertawe (10) sydd â record well yn y gystadleuaeth.

Hon fydd y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau glwb ac mae’r Seintiau Newydd yn ffefrynnau i gyrraedd y rownd gynderfynol heb orfod wynebu neb o’r uwch gynghrair.

Dydd Sadwrn, 17 Chwefror

Y Bala (Haen 1) v Mynydd y Fflint (Haen 3) | Dydd Sadwrn – 12:45 (S4C)

4edd Rownd: Caerau Trelai 1-4 Y Bala, Mynydd y Fflint 2-1 De Gŵyr
3edd Rownd: Aberystwyth 0-1 Y Bala, Mynydd y Fflint 2-1 Treganna
2il Rownd: Y Bala 3-0 Llandudno, Mynydd y Fflint 3-1 Treffynnon
Rownd 1af: NFA 0-3 Mynydd y Fflint
2il Rownd Ragbrofol: Mynydd y Fflint 9-0 Bae Cinmel

Mynydd y Fflint yw’r tîm isaf ar ôl yn y gystadleuaeth a’r unig glwb o’r drydedd haen i gyrraedd rownd yr wyth olaf eleni.

Mae Mynydd y Fflint yn 6ed yng Nghynghrair Ardal Gogledd Orllewin, ond pe bae tîm Aden Shannon yn ennill eu pum gêm wrth gefn, yna fe fyddai nhw’n dringo uwchben y ceffylau blaen, sef CPD Y Rhyl 1879.

Mae sawl enw profiadol yn aelodau o garfan Mynydd y Fflint bellach, ac mae cyn-chwaraewyr yr uwch gynghrair, Rob Hughes (4), Aaron Simpson (2) a Mike Hayes (2) eisoes wedi sgorio wyth gôl rhyngddynt yn y gwpan eleni.

Mike Hayes yw prif sgoriwr Mynydd y Fflint y tymor hwn gyda 18 gôl ym mhob cystadleuaeth, a bydd y blaenwr 36 mlwydd oed yn ysu i serennu yn erbyn ei gyn-glwb ble sgoriodd 40 o goliau cynghrair dros gyfnod o saith mlynedd.

Y Bala oedd enillwyr Cwpan Cymru 2017, yn curo’r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol yn Nantporth, ac roedden nhw’n anelu i ail-adrodd hanes y tymor diwethaf, ond fe gollon nhw’n drwm o 6-0 yn erbyn y Seintiau, sef y golled fwyaf mewn ffeinal ers 1931.

Mae’r Bala wedi llwyddo i gyrraedd rownd yr wyth olaf am yr wythfed tro mewn 12 mlynedd a bydd Hogiau’r Llyn yn gobeithio cyrraedd y rownd derfynol am yr ail dymor yn olynol i geisio gwneud yn iawn wedi’r gweir yn y ffeinal llynedd.

Hon fydd chweched gêm Mynydd y Fflint yn y gystadleuaeth y tymor hwn, ac mae’r clwb wedi curo timau o’r bedwaredd, y drydedd a’r ail haen i gipio lle yn yr wyth olaf, cyn wynebu eu tasg anoddaf eto yn erbyn clwb o’r haen gyntaf.

Bwcle (Haen 2) v Cei Connah (Haen 1) | Dydd Sadwrn – 14:00

4edd Rownd: Porthmadog 0-2 Bwcle, Y Fflint 0-3 Cei Connah
3edd Rownd: Llanuwchllyn 1-2 Bwcle, Cei Connah 8-0 Prestatyn
2il Rownd: Bow Street 2-3 Bwcle, Cei Connah 4-1 Caernarfon

Mae Bwcle wedi cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl ennill tair rownd oddi cartref yn erbyn Bow Street, Llanuwchllyn a Porthmadog.

Hon felly fydd eu gêm gartref gyntaf yn y gystadleuaeth y tymor hwn, ond oherwydd trafferthion gyda’r cae yn eu cartref arferol ‘Y Glôb’, mae’r clwb wedi cael eu gorfodi i chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ers mis Rhagfyr, sef cyn-gartref Cei Connah.

Ond brynhawn Sadwrn bydd Bwcle yn dychwelyd i’r Glôb am y tro cyntaf ers misoedd i groesawu Cei Connah o’r uwch gynghrair.

Dyw Cei Connah heb orfod teithio’n bell yn y gwpan eleni, yn curo Caernarfon a Prestatyn gartref, cyn wynebu eu cyd-denantiaid, Y Fflint ar Gae-y-Castell yn y rownd ddiwethaf, a nawr yn mentro 10 munud lawr y lôn i Bwcle.

Mae Bwcle wedi bod yn stryffaglu yng Nghynghrair y Gogledd y tymor hwn, ond mae tair buddugoliaeth o’u pedair gêm ddiwethaf wedi eu codi allan o safleoedd y cwymp.

Bydd Cei Connah yn hyderus o hawlio lle’n Ewrop gan eu bod 13 pwynt yn glir yn yr ail safle yn yr uwch gynghrair, ac ar ôl colli dim ond un o’u naw gêm ddiwethaf (vs YSN) bydd Neil Gibson a’i griw yn awyddus i orffen y tymor yn gryf.

Enillodd Cei Connah y gwpan yn 2018 ar ôl curo Aberystwyth o 4-1 ar Barc Latham dan reolaeth Andy Morrison, ond baglu yn y rownd gynderfynol oedd eu hanes y tymor diwethaf, yn colli 3-2 yn erbyn Y Bala.

Tydi’r clybiau yma heb gyfarfod ers Chwefror 2016 pan enillodd Cei Connah o 4-1 yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy ym mhedwaredd rownd y gwpan gyda Callum Morris yn rhwydo ddwywaith i’r Nomadiaid ar y noson.

Met Caerdydd (Haen 1) v Bae Colwyn (Haen 1) | Dydd Sadwrn – 14:00

4edd Rownd: Hwlffordd 1-1(cos) Met Caerdydd, Bae Colwyn 2-0 Y Barri
3edd Rownd: Met Caerdydd 2-1 Yr Wyddgrug, Y Drenewydd 1-1(cos) Bae Colwyn
2il Rownd: Met Caerdydd 4-0 Cwmbrân, Bae Colwyn 6-2 Llanrwst

Yn yr unig ornest rhwng dau o glybiau’r uwch gynghrair, bydd Met Caerdydd sy’n 4ydd yn y tabl yn croesawu’r clwb sydd ar waelod y gynghrair, Bae Colwyn.

Mae Met Caerdydd a Bae Colwyn wedi llwyddo i gyrraedd y rownd gynderfynol yn y blynyddoedd diweddar, ond eleni bydd y ddau glwb yn gobeithio cyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf yn eu hanes.

Cyrhaeddodd Met Caerdydd y rownd gynderfynol ddwywaith yn olynol yn 2019 a 2020, ond ers ffurfio’r clwb presennol yn 2000, dyw’r myfyrwyr erioed wedi cyrraedd y ffeinal.

Cyrhaeddodd Bae Colwyn rownd gynderfynol Cwpan Cymru yn 2021/22 cyn colli 1-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd, ond dyw’r Gwylanod chwaith heb gyrraedd y rownd derfynol.

Er gwaethaf eu safle cadarnhaol yn y gynghrair dyw Met Caerdydd heb fod ar rediad da yn ddiweddar a dyw’r myfyrwyr heb ennill gêm ers mis Rhagfyr, gan golli tair a chael pedair gêm gyfartal ers hynny.

Roedd Bae Colwyn wedi colli saith gêm gynghrair yn olynol cyn eu buddugoliaeth hollbwysig yn erbyn Aberystwyth y penwythnos diwethaf.

Er eu safle siomedig yn y Chwech Isaf, mae’r Gwylanod wedi trechu dau o glybiau’r uwch gynghrair i ddod cyn belled yn y gwpan y tymor hwn (Y Drenewydd ac Y Barri), a bydd Steve Evans yn benderfynol o’i gwneud hi’n hatric ddydd Sadwrn i gadw’r freuddwyd Ewropeaidd yn fyw.

Bae Colwyn oedd yn fuddugol yn y gêm gwpan ddiwethaf rhwng y timau, yn trechu’r myfyrwyr o 1-0 ar Ffordd Llanelian yn y bedwaredd rownd ym mis Hydref 2021.

Ond ers hynny mae’r clybiau wedi cyfarfod ddwywaith yn y gynghrair gyda Met Caerdydd yn ennill 1-0 ar Gampws Cyncoed ym mis Awst, cyn gêm gyfartal 2-2 ym Mae Colwyn ym mis Medi.


Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?