Mae’r tymor arferol wedi dod i’w derfyn ond mae un tocyn olaf i Ewrop ar ôl yn y gemau ail gyfle.
Bydd Pen-y-bont, Y Barri, Caernarfon a’r Drenewydd yn cystadlu am y safle olaf yng nghystadleuaeth newydd UEFA, Cyngres Europa, yn ogystal â gwobr o dros €200,000!
Bydd y ddwy gêm i’w gweld yn fyw ar Sgorio – Y Barri v Caernarfon ar S4C am 17.15 ar ddydd Sadwrn a Pen-y-bont v Y Drenewydd ar dudalen Facebook a YouTube Sgorio, cic gyntaf am 12.15 ddydd Sul.
ROWND GYNDERFYNOL GEMAU AIL GYFLE 2020/21
Y Barri (5ed) v Caernarfon (6ed) | Dydd Sadwrn – 17:15
Fe chwaraewyd yr union gêm yma yn y gynghrair y penwythnos diwethaf. Darren Thomas yn achub y blaen i Gaernarfon cyn hanner amser, ond Y Barri yn taro tair gôl yn yr ail hanner i selio’r triphwynt. Sgoriodd y Cofi Messi gôl gysur yn y funud olaf i wneud hi’n 3-2.
O’r pedwar clwb sy’n cystadlu yn y gemau ail gyfle’r tymor hwn, Y Barri yw’r fwyaf profiadol yn Ewrop. Mae’r Dreigiau wedi cystadlu yn Ewrop 11 o weithiau dros y blynyddoedd, gan fwynhau nosweithiau cofiadwy ar y ffordd – yn enwedig y fuddugoliaeth o dair gôl i un yn erbyn FC Porto ar Barc Jenner yn 2001!
Dyw’r Barri heb gyrraedd Ewrop drwy’r gemau ail gyfle o’r blaen. Dim ond unwaith mae’r clwb wedi ymddangos yn y gemau ail gyfle, ond yn colli’n drwm yn erbyn Met Caerdydd yn rownd gynderfynol 2018 (4-1).
Yn wahanol i’r Barri, tydi Caernarfon erioed wedi chwarae yn Ewrop. Ond fel Y Barri, dim ond un gêm ail gyfle mae Caernarfon wedi chwarae ynddo – hefyd yn erbyn Met! Y Myfyrwyr yn curo Caernarfon 2-3 yn rownd gynderfynol 2019 ar eu ffordd i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.
Rhaid i Gaernarfon ennill ar Barc Jenner am y tro cyntaf ers 2004 i gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Canlyniadau tymor yma: Y Barri 3-1 Caernarfon, Caernarfon 2-0 Y Barri, Caernarfon 0-1 Y Barri, Y Barri 3-2 Caernarfon
Record diweddar:
Y Barri: ❌❌❌❌✅
Caernarfon: ➖➖✅❌❌
Pen-y-bont (4ydd) v Y Drenewydd (7fed) | Dydd Sul – 12:15
Mae llwyddiant Pen-y-bont wedi bod yn un o straeon y tymor – ar ôl gorffen triphwynt yn unig uwchben safleoedd y cwymp y tymor diwethaf, mae tîm Rhys Griffiths wedi gwneud yn arbennig o dda i orffen yn y 4ydd safle’r tymor hwn ac yn y Chwech Uchaf am y tro cyntaf yn eu hanes.
Er mai Barri yw’r tîm fwyaf profiadol yn Ewrop o’r pedwar clwb, Y Drenewydd yw’r tîm sydd â’r fwyaf o brofiad yn y gemau ail gyfle.
Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd chwech o’r saith gemau ail gyfle diwethaf, a’r unig glwb o’r pedwar i ennill y gemau ail gyfle – yn nhymor 2014/15. Y Robiniaid yn curo Aberystwyth ar Goedlan y Parc yng ngêm Ddarbi’r Canolbarth i gyrraedd Ewrop am y tro cyntaf ers pymtheg mlynedd.
Roedd yr ymgyrch Ewropeaidd 2015/16 yn un cofiadwy i’r Robiniaid – curo Valletta o Malta ddwywaith (2-1, 1-2) i gyrraedd yr ail rownd ragbrofol a chwarae yn erbyn cewri Denmarc, Copenhagen (colli 1-5 dros y ddau gymal).
Mae’r ddau dîm wedi curo ei gilydd y tymor hwn – Pen-y-bont yn ennill 2-1 ym mis Hydref cyn i’r Drenewydd ennill 2-0 ar Barc Latham ym mis Mawrth.
Canlyniadau tymor yma: Pen-y-bont 2-1 Y Drenewydd, Y Drenewydd 2-0 Pen-y-bont
Record diweddar:
Pen-y-bont: ✅➖❌❌❌
Y Drenewydd: ✅✅❌✅❌