S4C

Navigation

Mae’r tymor cyffredin wedi dod i ben ac mae’r tri uchaf, Y Seintiau Newydd, Cei Connah a Phen-y-bont wedi sichrau eu lle’n Ewrop ar gyfer yr haf.

Bydd y tocyn olaf i Ewrop yn mynd i enillwyr y gemau ail gyfle, a bydd y pedwar clwb orffennodd rhwng y 4ydd a’r 7fed safle yn cystadlu yn y rownd gynderfynol y penwythnos yma.

Y Bala (5ed) v Y Drenewydd (6ed) | Nos Wener – 19:45 (S4C arlein)

Y gair hud wrth gyrraedd y gemau ail gyfle ydi ‘momentwm’, ac yn anffodus i’r Bala dyw hynny’n sicr ddim ar eu hochr nhw ar hyn o bryd.

Yn dilyn eu rhediad gwaethaf erioed yn y gynghrair o 12 gêm heb ennill, fe gollodd Y Bala 6-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd brynhawn Sul, sef y golled drymaf mewn rownd derfynol Cwpan Cymru ers 1931.

Er hynny, does dim ond angen ennill eu dwy gêm nesaf, a bydd Y Bala’n camu i Ewrop am y nawfed tro ers 2013.

Byddai’r Drenewydd ddim wedi gallu dewis gwrthwynebwyr mwy delfrydol ar gyfer y rownd gynderfynol, gan mae’r Bala yw’r unig dîm i golli yn erbyn y Robiniaid ers troad y flwyddyn.

Yn eu 13 gêm yn 2013 mae’r Drenewydd wedi colli wyth, cael tair gêm gyfartal, ac ennill ddwywaith yn erbyn Y Bala.

Mae gan Y Bala atgofion melys o ennill y gemau ail gyfle, ac hynny ar ôl gorffen yn 7fed ar ddiwedd tymor 2012/13, yn curo Cei Connah, Bangor a Phort Talbot i hawlio lle’n Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae’r Drenewydd wedi ennill y gemau ail gyfle ddwywaith – y tro cyntaf yn nhymor 2014/15 i gyrraedd Ewrop am y trydydd tro yn eu hanes, ac am y tro cyntaf ers 1998.

Yna wedi chwe mlynedd o fwlch, fe ddychwelodd y Robiniaid i Ewrop drwy ennill y gemau ail gyfle yn 2020/21, yn curo Caernarfon mewn rownd derfynol gyffrous ar yr Oval (Cfon 3-5 Dre), cyn gorffen yn 3ydd y tymor diwethaf i gyrraedd Ewrop am y pumed tro.

Felly, mae’r Bala yn anelu am Ewrop am y pedwerydd tymor yn olynol, tra bod Y Drenewydd yn llygadu taith dramor am y trydydd flwyddyn o’r bron, ond dim ond un fydd yn cyrraedd y ffeinal, a’r lleill yn gorfod goroesi ar gyllid tipyn tynnach y tymor nesaf.

Record cynghrair diweddar:

Y Bala: ❌❌❌❌➖

Y Drenewydd: ❌❌✅❌❌

 

Met Caerdydd (4ydd) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)

Tra bod clybiau profiadol Y Bala a’r Drenewydd wedi dechrau’r tymor gyda disgwyliadau uchel o hawlio lle’n Ewrop, nid llawer fyddai darogan y byddai Met Caerdydd a Hwlffordd yn cael eu henw yn yr het yn Geneva.

Gorffennodd Met Caerdydd yn 7fed llynedd, ac wedi i’r Dr Christian Edwards gamu i lawr o’i swydd fel rheolwr y clwb roedd yna amheuaeth os byddai’r myfyrwyr yn gallu parhau i berfformio ymysg goreuon Cymru.

Ond o dan arweiniad Ryan Jenkins, a gyda Dr Edwards yn dychwelyd i’w rôl flaenorol wedi’r hollt, mae Met Caerdydd wedi gorffen yn eu safle uchaf erioed (4ydd), ac ar bapur nhw yw’r ffefrynnau i ennill y gemau ail gyfle a chyrraedd Ewrop am y tro cyntaf ers tair blynedd.

Roedd Hwlffordd wedi gorffen yn 10fed y tymor diwethaf, ond mae’r clwb wedi bod yn brysur yn codi’r safonau ar y cae a thu ôl i’r llen ac mae’r canlyniadau i’w gweld gyda’r Adar Gleision yn gorffen yn 7fed eleni, sef eu safle uchaf ers 2008/09 gan selio lle’n y gemau ail gyfle am y tro cyntaf erioed.

Bydd y clwb o Sir Benfro yn anelu i gyrraedd Ewrop am ond yr eildro yn eu hanes, ac hynny ar ôl colli 4-1 dros ddau gymal yn erbyn Fimleikafélag Hafnarfjarðar o Wlad yr Iâ yn 2003/04.

Bydd Hwlffordd yn cymryd hyder o’r ffaith bod y tîm orffennodd yn 7fed wedi ennill y gemau ail gyfle deirgwaith yn yr 11 tymor ers ffurfio’r gystadleuaeth – a’r tri clwb sydd yn eu herbyn eleni oedd yr enillwyr rheiny (Y Bala 12/13, Met Caerdydd 18/19, Y Drenewydd 20/21).

Os mae ‘momentwm’ ydi’r allwedd, yna mae hwnnw’n sicr gan Hwlffordd am eu bod ar rediad o saith gêm heb golli (ennill 5, cyfartal 2).

Ond mae hanes ar ochr y myfyrwyr, gyda Met Caerdydd wedi ennill pedair o’u pum gêm ddiwethaf yn erbyn yr Adar Gleision.

 

Record cynghrair diweddar:

Met Caerdydd: ✅✅❌❌❌
Hwlffordd: ✅➖✅✅➖

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 10:15.

Bydd enillwyr y ddwy gêm yn cyfarfod ddydd Sadwrn nesaf yn y rownd derfynol i benderfynu pwy fydd y pedwerydd clwb fydd yn cynrychioli Cymru yn Ewrop eleni.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?