S4C

Navigation

 

Mae’n benwythnos rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG ac mae ‘na ddwy gêm gyffrous o’n blaenau ni. 

 

Nos Wener, 26 Tachwedd 

Y Bala v Cei Connah | Nos Wener – 19:45  

Gan i’r gystadleuaeth gael ei diddymu’r tymor diwethaf oherwydd Covid-19, mae Cei Connah yn parhau i fod yn ddeiliaid ar y cwpan ar ôl codi’r tlws yn 2020 yn dilyn eu buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn STM Sports yn y rownd derfynol. 

Dyna’r tro cyntaf i Gei Connah ennill Cwpan y Gynghrair ers tymor 1995/96 pan enillon nhw’r gystadleuaeth am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Bu rhaid i Gei Connah guro’r Bala yn y rownd gynderfynol yn nhymor 2019/20 ar eu ffordd i godi’r cwpan, a bydd Craig Harrison yn gobeithio gall y Nomadiaid ail-adrodd hynny’r tymor hwn. 

Fe gyrhaeddodd Y Bala’r rownd derfynol ddwywaith yn olynol yn 2014 ac yn 2015, ond colli’r ddwy ffeinal yn erbyn Caerfyrddin a’r Seintiau Newydd, ac felly dyw Hogiau’r Llyn erioed wedi cael eu dwylo ar y tlws.  

Collodd Y Bala o 3-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rownd derfynol 2014/15, a dim ond unwaith ers hynny mae dau glwb o’r uwch gynghrair wedi mynd benben yn y ffeinal (Met 0-1 YSN – 2017/18), ond mae hynny’n sicr o ddigwydd eleni gan nad oes clwb o’r adrannau is wedi cyrraedd y rownd gynderfynol y tro hwn. 

Dim ond un pwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb yn y gynghrair gyda’r Bala wedi codi uwchben Cei Connah i’r 5ed safle ar ôl curo’r Fflint 3-1 nos Wener, cyn i Gei Connah gael gêm ddi-sgôr gartref yn erbyn Pen-y-bont brynhawn Sadwrn. 

Ond bydd gan Gei Connah dipyn o fantais seicolegol gan mae dim ond tair wythnos sydd wedi mynd heibio ers i’r Nomadiaid roi crasfa o bedair i ddim i’r Bala mewn gêm gynghrair ar Faes Tegid. 

Mae’n sicr yn gaddo i fod yn gêm danllyd gan bod yna bum cerdyn coch wedi cael eu dangos yn y bum gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm yma. 

Mae’r Bala wedi trechu’r Fflint, Bangor a’r Drenewydd i ddod cyn belled yn y gystadleuaeth, tra bod Cei Connah wedi osgoi clybiau’r uwch gynghrair hyd yma ac wedi curo Llandudno, Airbus UK a Threffynnon o’r ail haen. 

 

Dydd Sadwrn, 27 Tachwedd 

Met Caerdydd v Y Barri | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar Gampws Cyncoed bydd Met Caerdydd yn anelu i drechu’r Barri am y trydydd tro’r tymor hwn. 

Mae’r myfyrwyr eisoes wedi gyrru’r Barri allan o Gwpan Cymru (3-0) ac wedi eu curo yn y gynghrair (0-1), a bydd Dr Christian Edwards yn dyheu i’w gwneud hi’n hatric brynhawn Sadwrn. 

Mae’r Barri wedi codi Cwpan y Gynghrair ar bedwar achlysur, ac hynny bedair gwaith yn olynol yn ystod eu cyfnod euraid rhwng 1997-2000. 

Cyrhaeddodd Y Barri’r ffeinal unwaith eto yn 2017 cyn colli 4-0 yn erbyn Y Seintiau Newydd yng nghartref Met Caerdydd, Campws Cyncoed. 

Met Caerdydd syrthiodd wrth draed y Seintiau yn y rownd derfynol y flwyddyn ganlynol gan golli 1-0 yn erbyn cewri Croesoswallt. 

Ond flwyddyn yn ddiweddarach ac roedd Met Caerdydd yn fuddugol am y tro cyntaf erioed ar ôl ennill 2-0 yn erbyn Cambrian a Clydach yn rownd derfynol 2018/19, ac hynny yng nghartref Y Barri, Parc Jenner. 

Fel Cei Connah, mae’r Barri wedi cyrraedd y rownd gynderfynol drwy guro clybiau’r gynghrair is (Llanelli, Trefelin a Phontypridd), tra bod Met Caerdydd wedi ennill tair gêm oddi cartref yn erbyn Rhydaman, Aberystwyth a Hwlffordd. 

Bydd Met Caerdydd yn falch o gael saib o’r gynghrair gan iddyn nhw syrthio i safleoedd y cwymp yn dilyn eu colled gartref yn erbyn Aberystwyth nos Wener, tra bo’r Barri’n 8fed ac heb golli mewn chwe gêm ym mhob cystadleuaeth. 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio. 

Sgorio

Author Sgorio

More posts by Sgorio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?