Brynhawn Sadwrn bydd pedwar o glybiau’n cystadlu yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG wrth i’r timau sydd ar frig Cynghrair y Gogledd a Chynghrair y De geisio achosi sioc yn erbyn dau o dimau’r uwch gynghrair.
Dydd Sadwrn, 6 Rhagfyr
Y Seintiau Newydd v Llandudno | Dydd Sadwrn – 14:30
Y Seintiau Newydd yw deiliaid presennol Cwpan Nathaniel MG a’r clwb mwyaf llwyddiannus yn holl hanes y gystadleuaeth ar ôl codi’r cwpan ar 11 achlysur.
Yn y rownd derfynol y tymor diwethaf, Aramide Oteh sgoriodd unig gôl y gêm ar Barc Latham wrth i’r Seintiau Newydd ennill o 1-0 yn erbyn Aberystwyth.
Y Seintiau oedd yr enillwyr y flwyddyn flaenorol hefyd ar ôl curo Abertawe dan 21 yn y rownd derfynol, ac felly mae criw Craig Harrison wedi ennill 13 gêm yn olynol yn y gystadleuaeth.
Yn wahanol i’r Seintiau, dyw Llandudno erioed wedi codi Cwpan Nathaniel MG, nac erioed wedi cyrraedd y rownd gynderfynol yn y gorffennol.
Ond mae tîm Jordan Hadaway yn mwynhau tymor rhyfeddol gan nad yw Llandudno wedi colli dim un o’u 18 gêm ym mhob cystadleuaeth y tymor hwn (ennill 16, cyfartal 2).
Dim syndod felly bod Llandudno yn eistedd ar frig Cynghrair y Gogledd ac yn anelu i ddychwelyd i’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers syrthio i’r ail haen yn 2019.
I gyrraedd y rownd gynderfynol eleni mae’r Seintiau wedi trechu Airbus UK (7-1), Cei Connah (1-3) a Chaernarfon (3-0), tra bod Llandudno wedi curo Gresffordd (7-0), Dinbych (3-1) a’r Drenewydd (3-6).
Mae blaenwr profiadol Llandudno, Mark Cadwallader, wedi sgorio pump o goliau yng Nghwpan Nathaniel MG y tymor yma, yn cynnwys hatric yn erbyn Gresffordd, tra bod Adam Stephens wedi sgorio ym mhob rownd hyd yma.
Yn ogystal â chyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth hon, mae Llandudno wedi cyrraedd pedwaredd rownd Cwpan Cymru JD ar ôl curo Cei Connah lai na phythefnos yn ôl, ac felly ni fydd llanciau Llandudno yn ofni wynebu clwb o’r uwch gynghrair.
Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers mis Mawrth 2019 pan sgoriodd Greg Draper bump o goliau i’r Seintiau mewn buddugoliaeth swmpus o 8-1 ar Barc Maesdu yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru.
Gyda’r Seintiau’n siomedig o fod allan o Gwpan Cymru mor gynnar y tymor hwn, bydd y pencampwyr proffesiynol yn benderfynol o gamu i rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG a cheisio cyflawni dwbl domestig am y pumed tymor yn olynol.
Cambrian v Y Barri | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw arlein)
Y Barri yw ail dîm mwyaf llwyddiannus holl hanes Cwpan y Gynghrair, gan mae’r Seintiau Newydd (11) yw’r unig glwb i godi’r tlws yn amlach na’r Dreigiau (4).
Cododd Y Barri y cwpan am bedair blynedd yn olynol rhwng 1996 a 2000, ac mae tîm Steve Jenkins yn gobeithio cyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf ers 2016/17.
Mae’r Barri wedi cyrraedd y rownd gynderfynol am yr ail flwyddyn o’r bron, ond colli o 2-1 gartref yn erbyn Y Seintiau Newydd oedd eu hanes yn y rownd hon llynedd.
Mae Cambrian yn gobeithio cyrraedd rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG am yr eildro yn eu hanes, ac hynny er nad yw’r clwb erioed wedi chwarae yn yr haen uchaf.
Llwyddodd Cambrian i gyrraedd y ffeinal yn nhymor 2018/19 ac hynny ar ôl trechu’r Barri ar giciau o’r smotyn yn y rownd gyntaf cyn mynd ymlaen i guro Aberystwyth, Y Drenewydd a’r Seintiau Newydd, cyn colli o 2-0 yn erbyn Met Caerdydd yn y rownd derfynol.
Eleni, mae Cambrian wedi curo Sêr Treowen (cos 2-2), Caerdydd d21 (0-2), Met Caerdydd (cos 1-1) a Llansawel (1-0) i gyrraedd y rownd gynderfynol, tra bod Y Barri wedi trechu Aberystwyth (2-1), Llanelli (1-0) a Hwlffordd (0-2) i ddod cyn belled yn y gystadleuaeth.
Mae Cambrian yn eistedd ar frig Cynghrair y De ac mewn safle cryf i sicrhau dyrchafiad i’r Cymru Premier JD am y tro cyntaf yn eu hanes.
Un o’r rhesymau am lwyddiant Cambrian y tymor hwn yw perfformiadau’r blaenwr Liam Eason, sydd wedi sgorio 18 o goliau i’w glwb newydd ers ymuno o Lanelli dros yr haf.
Ond mi fydd hi’n dalcen caled yn erbyn Y Barri sydd ar rediad arbennig o wyth gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth, ac wedi cadw chwe llechen lân yn ystod y cyfnod hwnnw.
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.





