S4C

Navigation

Dros y penwythnos bydd pedwar clwb yn cystadlu am le yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG. 

Ar ddydd Sadwrn bydd Aberystwyth yn croesawu tîm ifanc Caerdydd i Goedlan y Parc, cyn i’r Barri herio’r Seintiau Newydd brynhawn Sul. 

Yn ogystal â’r gemau cwpan, bydd Y Drenewydd yn wynebu Cei Connah mewn gêm gynghrair ar ôl i’r ornest rhwng y ddau dîm gael ei gohirio yr wythnos diwethaf oherwydd y tywydd. 

 

Dydd Sadwrn, 30 Tachwedd 

Y Drenewydd (9fed) v Cei Connah (8fed) | Dydd Sadwrn – 14:30 

Roedd yr eira a’r rhew yn drech nag ymdrechion Y Drenewydd i gynnal y gêm hon y penwythnos diwethaf, ac felly mi fydd y clybiau yn rhoi cynnig arall arni ddydd Sadwrn yma. 

Mae’r Drenewydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhump o’r chwe tymor diwethaf, ac er iddyn nhw orffen yn 7fed yn nhymor 2020/21 fe aethon nhw ymlaen i ennill y gemau ail gyfle a chamu i Ewrop ar ddiwedd yr ymgyrch hwnnw. 

Ond tydi’r sefyllfa ddim yn edrych mor addawol eleni gan bod y Robiniaid m’ond wedi ennill un o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf gan syrthio o’r trydydd i’r nawfed safle. 

Callum McKenzie sydd wedi cymryd yr awennau ers i Scott Ruscoe gael ei ddiswyddo, ac yn ei unig gêm wrth y llyw hyd yma fe gollodd Y Drenewydd o 3-1 yn erbyn Aberystwyth. 

Mae Cei Connah yn hafal ar bwyntiau gyda’r Drenewydd, ond tra bo’r hwyliau’n isel ar Barc Latham, mae’r canlyniadau wedi gwella i Gei Connah yn ddiweddar. 

Enillodd y Nomadiaid o 2-1 yn Nhrefelin bythefnos yn ôl i selio eu lle ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru, ac honno oedd eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref ers mis Awst. 

Mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal, ond dyw’r Drenewydd heb ennill gartref yn erbyn Cei Connah ers wyth mlynedd gan golli chwe gwaith a chael pedair gêm gyfartal ar Barc Latham ers hynny. 

 

Record cynghrair diweddar:  

Y Drenewydd: ͏✅❌❌➖❌ 

Cei Connah: ͏➖✅❌✅❌ 

 

Aberystwyth v Caerdydd | Dydd Sadwrn – 14:30 

Ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn bydd Aberystwyth a Chaerdydd yn anelu i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Fe gyrhaeddodd Aberystwyth y rownd gynderfynol yn nhymor 2019/20 cyn colli o 2-1 yn erbyn STM Sports. 

Flwyddyn diwethaf oedd y tro cyntaf i Gaerdydd gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac fe gollodd yr Adar Gleision ifanc yn erbyn Abertawe yn y drydedd rownd, felly dyma eu rhediad gorau yn y cwpan. 

Mae Aberystwyth ar waelod y domen yn yr uwch gynghrair ar ôl colli 13 o’u 17 gêm gynghrair hyd yma, gan sgorio dim ond 14 o goliau. 

Er hynny, mae’r Gwyrdd a’r Duon wedi curo Bae Colwyn, Llandudno a Chei Connah i gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth hon. 

Mae Caerdydd yn mwynhau tymor cadarn yn Nghynghrair Datblygu y De dan arweiniad cyn-chwaraewr y clwb Darren Purse, gan ennill saith o’u 10 gêm gynghrair hyd yma ac mae’r clwb yn brwydro tua’r brig gyda timau dan 21 Bournemouth a Charlton. 

Bu rhaid i Gaerdydd drechu Lido Afan, Pontypridd, Merthyr a Met Caerdydd i gyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth eleni. 

Blaenwr 19 mlwydd oed Caerdydd, Michael Reindorf Junior yw prif sgoriwr Cwpan Nathaniel MG y tymor hwn ar ôl taro saith gôl mewn pedair gêm hyd yma, yn cynnwys hatric yn yr ail rownd yn erbyn Pontypridd. 

Cyn-reolwr Y Barri, Gavin Chesterfield yw Pennaeth Academi Caerdydd, ac mae’n siwr y byddai’n achlysur arbennig iddo fo pe bae’r Adar Gleision ifanc yn gallu camu i’r rownd derfynol a wynebu ei gyn-glwb. 

 

Dydd Sul, 1 Rhagfyr  

Y Barri v Y Seintiau Newydd | Dydd Sul – 17:45 

Nos Sul bydd dau glwb mwyaf llwyddiannus Cwpan Cynghrair Cymru, Y Seintiau Newydd (10) a’r Barri (4) yn cystadlu am le yn y rownd derfynol. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan y Gynghrair (neu Cwpan Nathaniel MG) ar 10 achlysur, yn cynnwys rhediad o 19 buddugoliaeth yn olynol yn y gystadleuaeth rhwng 2014 a 2018, a cewri Croesoswallt yw’r deiliaid presennol ar ôl curo tîm dan 21 Abertawe yn y rownd derfynol y tymor diwethaf.  

Cododd Y Barri y cwpan am bedair blynedd yn olynol rhwng 1996 a 2000, ac mae’r Dreigiau’n gobeithio cyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf ers 2016/17. 

Y Seintiau Newydd oedd eu gwrthwynebwyr yn y ffeinal ar Gampws Cyncoed yn Ionawr 2017, a Chris Seargeant oedd y seren ar y noson, yn sgorio hatric wrth i’r Seintiau ennill yn gyfforddus o bedair i ddim. 

Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau yn y gystadleuaeth hon ers y ffeinal honno, ond mae’r timau wedi cwrdd 20 gwaith ers hynny gyda’r Seintiau’n ennill 15 o weithiau a’r Barri’n ennill dim ond ddwywaith (cyfartal 3), gyda’r fuddugoliaeth ddiwethaf i’r Dreigiau yn dod ym mis Medi 2019. 

Mae’r timau wedi cyfarfod ddwywaith yn y gynghrair y tymor hwn gyda’r Seintiau’n ennill o 4-0 gartref, ac ennill o 4-1 oddi cartref ar Barc Jenner ar ddechrau mis Tachwedd. 

Ond mae’r Barri yn mwynhau cyfnod campus ar ôl ennill pump o’u saith gêm gynghrair ddiwethaf, a dim ond y ddau uchaf (Pen-y-bont ac YSN) sydd wedi llwyddo i guro tîm Steve Jenkins yn y gynghrair ers mis Awst. 

Mae’r Barri wedi curo Llanelli, Adar Gleision Trethomas a Pen-y-bont i gyrraedd y rownd gynderfynol eleni, tra bo’r Seintiau wedi trechu Y Fflint, Airbus UK ac Y Bala. 

 

 

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?