S4C

Navigation

Dydd Sadwrn, 3 Chwefror – Stadiwm Cymunedol Falkirk 

 Falkirk v Y Seintiau Newydd | Nos Sadwrn – 19:40 (S4C) 

Nos Sadwrn bydd Y Seintiau Newydd yn anelu i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Her yr Alban am y tro cyntaf yn eu hanes. 

Mae Cwpan Her yr Alban yn gystadleuaeth ar gyfer clybiau ail haen yr Alban ac îs, ac mae timau o Gymru wedi cael gwahoddiad i gymeryd rhan ers 2016/17. 

Fe lwyddodd Y Seintiau Newydd i gyrraedd y rownd gynderfynol ar y ddau gynnig cyntaf gan golli yn erbyn St Mirren yn rownd gynderfynol 2016/17 cyn colli yn erbyn Dumbarton yn yr un rownd y tymor canlynol. 

Cei Connah yw’r unig glwb o Gymru sydd wedi mynd ymhellach na’r Seintiau yn y gystadleuaeth gan iddyn nhw gyrraedd y rownd derfynol yn 2018/19 dan arweiniad Andy Morrison, cyn colli 3-1 yn erbyn Ross County. 

Eleni, mae’r Seintiau Newydd wedi trechu Hibernian B, East Fife ac Arbroath i gyrraedd y rownd gynderfynol, ble mae tîm mwyaf llwyddiannus holl hanes y gystadleuaeth yn aros, sef Falkirk. 

Mae Falkirk, sydd ar frig Adran Gyntaf yr Alban (haen 3), wedi ennill Cwpan Her yr Alban ar bedwar achlysur (1993, 1997, 2004, 2012), ac eisoes wedi curo tri clwb o Bencampwriaeth yr Alban (haen 2) i gyrraedd y rownd gynderfynol y tymor hwn. 

Fel Y Seintiau Newydd, mae Falkirk yn hedfan yn y gynghrair ac heb golli gêm drwy gydol y tymor yn yr Adran Gyntaf. 

Bydd Craig Harrison yn sicr yn awyddus i arwain ei glwb i’r rownd derfynol, ac yn benderfynol o gadw rhediad rhagorol y Seintiau yn fyw wrth iddyn nhw freuddwydio am y ‘quadruple’. 

Mae’r Seintiau Newydd wedi mynd ar rediad o 33 gêm heb golli ym mhob cystadleuaeth am y tro cyntaf ers 2017, ac wedi ennill 25 gêm yn olynol gan dorri 15 pwynt yn glir o Gei Connah ar frig y Cymru Premier JD. 

Yn ogystal â sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Her yr Alban, mae’r Seintiau eisoes wedi codi Cwpan Nathaniel MG, ac wedi camu ymlaen i rownd wyth olaf Cwpan Cymru. 

Dyma rediad gorau’r clwb o Groesoswallt ers Awst 2016 i Chwefror 2017 (31 gêm heb golli), ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe dorron nhw record y byd gyda 27 buddugoliaeth yn olynol. 

Bydd cewri Croesoswallt yn benderfynol o dorri’r record hwnnw, ac i guro eu rhediad blaenorol o 39 gêm gystadleuol heb golli rhwng Awst 2014 ac Ebrill 2015. 

Enilodd Y Seintiau Newydd y trebl domestig ddwywaith yn olynol rhwng 2014-16 dan arweiniad Craig Harrison, ond byddai ennill y ‘quadruple’ yn gamp aruthrol i’r clwb. 

Yn y rownd gynderfynol arall bydd Raith Rovers yn wynebu Airdrieonians nos Wener, sef dau dîm o hanner uchaf Pencampwriaeth yr Alban, a bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar benwythnos 23-24 Mawrth. 

 

Rhys Llwyd

Author Rhys Llwyd

More posts by Rhys Llwyd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?